Ewch i’r prif gynnwys

Symposiwm Technegol CIBSE

CIBSE Technical Symposium 2024

Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn falch o allu cynnal Symposiwm Technegol CIBSE 2024, sy’n digwydd ar 11-12 Ebrill 2024.

Gan drin a thrafod y thema ganlynol: “Addas ar gyfer 2050 - Creu adeiladau a diffinio perfformiad er amgylchedd adeiledig sero net”, bydd siaradwyr y Symposiwm yn cyflwyno amrywiaeth o bapurau a adolygir gan gymheiriaid sy’n amlinellu’r datblygiadau mwyaf diweddar mewn ymarfer, technoleg a pholisi. Ar yr un pryd, bydd y Symposium yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r canllawiau diweddaraf ar gyfer peirianwyr gwasanaethau adeiladu.

Bydd y Symposiwm yn arfogi ymarferwyr â’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o ran bodloni safonau gorfodol carbon sero net a datblygiadau arloesol digidol, yn ogystal â rhannu gwybodaeth ac arfer gorau wrth greu amgylcheddau adeiledig iach.

Prif ffocws y Symposiwm Technegol CIBSE 2024 yw diffinio perfformiad adeiladau a’u cyflawni, mewn modd lle y caiff adeiladau, newydd a phresennol, eu hadeiladu sy’n addas ar gyfer y dyfodol, yng nghyd-destun y chwyldro digidol, effeithiau cynyddol a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd, ffocws newydd ar iechyd a lles, a'r galw newydd am ddiogelwch adeiladau.

Gellir cadw lle yn y Symposiwm Technegol CIBSE drwy wefan CIBSE.

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau pellach ynghylch y Symposiwm, e-bostiwch symposium@cibse.org

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch ymweliad ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru, cysylltwch â’r Athro Jo Patterson neu Manos Perisoglou.