Ewch i’r prif gynnwys

Y Sioe Myfyrwyr WSA 2023

Lansiwyd Arddangosfa WSA 2023 ar 23 Mehefin.

Sioe dan arweiniad myfyrwyr yw hon. Mae'n ffrwyth llafur cydweithredol gan bob blwyddyn, cwrs a stiwdio dylunio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Mae'r arddangosfa’n cynnwys detholiad wedi’i guradu o ddarluniau, delweddiadau, modelau, siartiau, diagramau, mapiau, posteri, ffilmiau, arteffactau, a gwaith arall o’r holl gyrsiau a gynhelir yn yr ysgol yn y flwyddyn academaidd 2022-23.

Teitl y sioe yw “Adapt.” Mae hyn wedi deillio’n bennaf o benderfyniad tîm curadurol y myfyrwyr i ailddefnyddio ac addasu’r system arddangos a ddatblygwyd ar gyfer ein harddangosfa 2022 ar gyfer sioe eleni. Gan anelu at gynhyrchu arddangosfa gynaliadwy drwy ailgylchu deunyddiau yn hytrach na dechrau o'r newydd eto, aeth y tîm ati i ail-gyflunio rhannau safonol i weddu i'r amrywiaeth o syniadau, prosiectau ac ymchwil sydd yng nghorff gwaith eleni. Drwy wneud hyn, y gobaith oedd "ysbrydoli diwylliant o ddyfeisgarwch ac arloesedd sy’n ymestyn y tu hwnt i’r arddangosfa ac i bob agwedd ar waith ein myfyrwyr."

Mwynhewch ein sgan 3D o'r Arddangosfa eleni yma.

Edrychwch ar y Blwyddlyfr o arddangosfa eleni yma