Ewch i’r prif gynnwys

Gofod Cyhoeddus ac Astudio Tiriogaethau Trefol

Public Space and the Study of Urban Territories

Mae’r grŵp ymchwil ac ysgolheictod Trefolrwydd yn cynnal darlith wadd gan yr Athro Andrea Mubi Brighenti i drafod lleoedd cyhoeddus ac astudio tiriogaethau trefol.

Dyddiad: Dydd Iau 7 Rhagfyr 2023, 12:30 - 13:30

Siaradwr: Yr Athro Andrea Mubi Brighenti, Prifysgol Trento, yr Eidal

Yn y ddarlith hon, mae’r Athro Brighenti yn ceisio cyflwyno tiriogaetheg yn ddull ymchwil y gellir ei ddefnyddio mewn ffordd sensitif i astudio gofod cyhoeddus. Bydd yn ystyried y mannau cyfarfod rhwng theori gymdeithasol, ethnograffeg, daearyddiaeth ddynol a dylunio, sef offer defnyddiol er mwyn astudio’r broses o fynd ati i greu tiriogaeth. Mae pob tiriogaeth yn cael ei llunio gan rymoedd dychymyg a ffigurol bywyd cymdeithasol wrth i’r rhain gael eu hymgorffori mewn set o ddeunyddiau. Gan ddechrau o'r rhagdybiaeth hon, hoffai ddangos ychydig o achosion ac enghreifftiau posibl yn y dyfodol ym maes astudiaethau trefol.

Athro Theori Gymdeithasol a Gofod a Diwylliant yn Adran Cymdeithaseg, Prifysgol Trento, yr Eidal yw Andrea Mubi Brighenti. Mae ei bynciau ymchwil yn ymdrin yn fras â materion sy’n ymdrin â gofod, grym a’r gymdeithas. Ef yw awdur Elias Canetti and Social Theory (Bloomsbury, 2023). The Bond of Creation; (gyda Mattias Kärrholm) Animated LandsStudies in Territoriology (Gwasg Prifysgol Nebraska, 2020);Teoria Sociale. Un percorso introduttivo [Social Theory. An Introduction] (Meltemi, 2020), The Ambiguous Multiplicities: Materials, episteme and politics of some cluttered social formations (Palgrave Macmillan, 2014), Visibility in Social Theory and Social Research (Palgrave Macmillan, 2010) aTerritori migranti [Migrant Territories. Space and Control of Global Mobility] (ombre corte, 2009). Ei wefan ymchwil yw www.capacitedaffect.net

Ymunwch â’r Cyfarfod Zoom

Cyfeirnod y cyfarfod: 889 8613 4848
Cyfrinair: 624008