Ewch i’r prif gynnwys

Meistr mewn Gweinyddu Dylunio (MDA)

Students in a classroom

Nod y radd Meistr mewn Gweinyddu Dylunio, neu MDA, yw sicrhau eich bod yn cael yr arbenigedd angenrheidiol i weinyddu a rheoli'r broses ddylunio'n llwyddiannus wrth gaffael adeiladau.

Mae'r MDA wedi'i lunio i'w gynnal tra eich bod mewn cyflogaeth, a gellir ymgymryd ag ef ar sail dysgu cyfunol neu ddysgu o bell 100%, gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau addysgu arloesol a rhyngweithiol, gan sicrhau bod gan bob myfyriwr gysylltiadau agos â'r ysgol a gyda'i gilydd.

Datblygwyd y rhaglen i fodloni'r angen cynyddol am arbenigwyr ym maes rheoli dylunio, yn achos cyrff cleientiaid, cwmnïau ymgynghori yn ogystal â chwmnïau contractio ac is-gontractio arbenigol. Her allweddol yn y diwydiant adeiladu yw llwyddo i integreiddio a rheoli'r broses ddylunio, a gall rychwantu proses gychwynnol y prosiect, trosglwyddo’r adeilad yn ogystal â rhoi adborth ar ôl i’r cleient ei feddiannu.

Er mwyn wynebu'r her hon mae'n hanfodol defnyddio prosesau arloesol i adnabod, cyfathrebu a gwireddu bwriad y dylunio. Mae’n rhaid i fframweithiau clir dan gontract sy'n adlewyrchu cyfrifoldebau annibynnol a chyffredin y cyfranogwyr yn fanwl gywir gefnogi'r prosesau hyn, a hynny er mwyn cyflawni'r gofynion dylunio yn ymarferol.

Cyflwynir yr MDA drwy gyfres o ddigwyddiadau addysgu undydd a deuddydd, ynghyd â gweminarau rheolaidd yn ystod amser cinio, gweithdai ar-lein gan arbenigwyr blaenllaw, ynghyd â blog wythnosol sy’n rhoi’r newyddion diweddaraf ichi ar ddigwyddiadau’r cwrs a’r datblygiadau cyfredol yn y diwydiant sy'n berthnasol i'r cwrs.  Bwriedir i nifer o’r digwyddiadau yn ystod y dydd fod ar y campws (yn ein hadeilad sydd newydd ei adnewyddu), ond byddant yn cael eu ffrydio'n fyw ar gyfer y myfyrwyr sy’n dysgu o bell. Ar y cyd â’r digwyddiadau hyn bydd byrddau trafod sy’n berthnasol i bynciau penodol, adborth ysgrifenedig rheolaidd am eich gwaith, a thiwtorialau ar-lein ar gyfer unigolion a grwpiau. Bydd deunyddiau atodol ar gyfer y cwrs ar gael ar ffurf nodiadau cwrs manwl a chyflwyniadau fideo a recordiwyd ymlaen llaw.

Arweiniodd y rhyngweithio rhwng arbenigwyr, myfyrwyr ac athrawon prifysgol, pawb o wahanol gefndiroedd, at ddadansoddi difyr iawn yn ystod y cwrs. Roeddwn i hefyd yn gwerthfawrogi’r ffaith bod staff addysgu'r Ysgol yn deall sefyllfa ac anghenion myfyrwyr oedd yn gweithio mewn swyddi wrth astudio. Fe ddes i'n ymwybodol o'r hyn sy'n cael ei ystyried yn rheoli da a datblygu prosiect mewn ffordd effeithiol, gan fagu hyder wrth ymwneud â materion megis contractau o fathau arbennig er enghraifft contractau caffael a hefyd materion megis cyfraith adeiladu. Rwy'n sicr bod cynyddu fy ngwybodaeth yn hanfodol ar gyfer deall ac wynebu senarios gwahanol, a bod hynny yn ei dro’n gwella cyfleoedd.

Elisa Migliorini

Sut i wneud cais

I gael rhagor o wybodaeth ar gynnwys, strwythur a ffioedd y cwrs ynghyd â sut i wneud cais, ewch i’r dudalen wybodaeth ar gyfer ein cwrs Meistr mewn Gweinyddu Dylunio.

Digwyddiadau allweddol

Mae eitemau newyddion ynghylch y  cwrs a'r gwobrau a ddyfarnwyd ar gyfer sesiwn 21/22 ar gael ar-lein. Gellir dod o hyd i newyddion ynghylch y staff dan sylw gan gynnwys y llyfr newydd gan Lupton Stellakis, " Understanding Professional Services Contracts " a darn a ysgrifennwyd ar gyfer Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), o'r enw "Dewis y contract adeiladu mwyaf priodol ar gyfer prosiect domestig bach"  arLinkedIn. Gweler hefyd erthyglau newyddion am lwyddiant ein graddedigion: Elisa MiglioriniHaya Magdy Muhamed.

Dyma'r dyddiadau arfaethedig ar gyfer digwyddiadau diwrnodau llawn allweddol ar gyfer 22/23. Sylwch y bydd yr holl ddigwyddiadau ar y campws yn cael eu ffrydio'n fyw i'r rhai sy'n dilyn y llwybr dysgu o bell.

Mae myfyrwyr amser llawn (ALl) yn dod i bob digwyddiad, rhan amser (RhA) yn dilyn y drefn a ddangosir yma.

   
28 MediAr y campwsALl, RhAB1 a RhAB2
7 HydrefAr-leinALl a RhAB1
14 HydrefAr-leinALl a RhAB1
20/21 HydrefAr-leinALl a RhAB1
19/20 HydrefAr-leinALl a RhAB2
26/27 ChwefrorAr y campwsALl a RhAB2
23/24 ChwefrorAr y campwsALl a RhAB1
23/24 HydrefAr-leinALl, RhAB1 a RhAB2
31 MediAr y campwsALl, RhAB1 a RhAB2

Tîm y Cwrs

Yr Athro Sarah Lupton sy’n cyfarwyddo’r cwrs. Mae dau ymgynghorydd arbenigol yn allweddol i'r cwrs (Manos Stellakis a Robert Firth). Mae’r ddau yn allanol i'r Ysgol ond mae ganddyn nhw fewnbwn parhaus, gan gynghori ar faterion strategol, yn cyflwyno seminarau a gweithdai, yn ogystal â rhoi adborth i’r myfyrwyr. Ar ben hynny, mae gennym dîm o diwtoriaid a holl gynfyfyrwyr y cwrs i helpu gyda’r gweithdai a’r gwaith o roi adborth. Byddwn ni’n gwahodd arbenigwyr byd diwydiant i gyflwyno sgyrsiau a seminarau gwadd.

Cyfarwyddwr y Cwrs

Yr Athro Sarah Lupton

Yr Athro Sarah Lupton

Personal Chair

Email
lupton@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5966

Ymgynghorwyr

Robert Firth BSc (Anrh) BArch (Dist) MSc (Rheoli Prosiectau), FRSA, FFB, RIBA (Partner, RDMF Consultancy, Ymgynghorydd Arbenigol, WSA)

Manos Stellakis BSc, DipArch, MSc (Econ) RIBA, (Partner, penseiri Lupton Stellakis; Ymgynghorydd Arbenigol, WSA)

Tîm Cefnogi Derbyn Myfyrwyr

Architecture Admissions