Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg

Mae ein Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg Prifysgol Caerdydd sydd wedi'u hachredu gan AdvanceHE yn helpu staff i ddatblygu eu dysgu a'u haddysgu a chael cydnabyddiaeth am eu hymarfer proffesiynol.

Mae Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg Prifysgol Caerdydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar staff i fod yn addysgwyr effeithiol ac maent wedi'u cynllunio i fod yn ddiddorol, yn ysgafn a chanolbwyntio ar ymarfer.

Mae'r rhaglenni wedi'u cyd-ddatblygu gan ystod eang o staff a myfyrwyr i ddiwallu anghenion y rhai sy’n cymryd rhan a'r Brifysgol.

Darganfyddwch fwy am ein Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg yn y fideo yma

Disodlodd y rhaglenni Cymrodoriaethau’r rhaglenni Arfer Academaidd a Dysgu i Addysgu blaenorol ym mis Medi 2021. Mae’r rhaglenni Cymrodoriaethau yn agored i’r holl staff a myfyrwyr ôl-raddedig sy’n ymwneud ag addysgu a/neu gymorth dysgu.

Mae'r rhain yn cynnwys;

  • darlithydd newydd yn dylunio eich modiwlau neu sesiynau addysgu cyntaf
  • tiwtor graddedig neu arddangoswr
  • aelod o staff addysgu neu fyfyrwyr gwasanaethau proffesiynol
  • gweithiwr gwybodaeth proffesiynol neu dechnegydd sy'n darparu gweithdai neu gymorth labordy
  • neu arweinydd profiadol yn cydlynu rhaglenni addysg, neu'n arwain agweddau ar addysgu a dysgu

Strwythur

Maent wedi'u strwythuro o amgylch gweithdai dysgu cyfunol thematig ac yn helpu’r rhai sy’n eu gwneud i greu portffolio ar-lein a all arwain at ddyfarniadau Cymrawd Cyswllt (AFHEA), Cymrawd (FHEA) neu Uwch Gymrawd (SFHEA) a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Rhaglenni

Mae dwy raglen wedi'u hwyluso'n llawn a llwybr pwrpasol at gydnabyddiaeth wedi'i hanelu at y rhai sydd eisoes yn symud ymlaen gyda datblygiad eu portffolio:

Rhaglen Cymrawd Cyswllt Addysg Prifysgol Caerdydd

Mae Rhaglen Cymrawd Cyswllt Addysg Prifysgol Caerdydd ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy'n dechrau addysgu. Mae’n addas hefyd ar gyfer staff gwasanaethau proffesiynol sy'n datblygu cyfrifoldebau cymorth dysgu a rhoddir statws AFHEA i bawb fydd yn cymryd rhan.

Rhaglen Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Caerdydd

Mae Rhaglen Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Caerdydd yn rhaglen fer o saith gweithdy ar gyfer staff gwasanaethau proffesiynol ac academaidd newydd gyda rolau addysgu, a rhoddir statws Cymrodoriaeth i bawb fydd yn cymryd rhan. Mae cwblhau'r Rhaglen Cymrodoriaeth Addysgu ac ennill dyfarniad FHEA yn ofyniad prawf allweddol ar gyfer darlithwyr Gradd 6.

Cynllun Datblygu Cymrodorion Addysg Prifysgol Caerdydd

Mae Cynllun Datblygu Cymrodorion Addysg Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn pwrpasol o weithdai a chefnogaeth i ddatblygu portffolio ar gyfer gwobrau Cymrawd Cysylltiol, Cymrawd ac Uwch Gymrawd. Bydd portffolios yn cael eu cyflwyno i banel o Brifysgol Caerdydd sydd wedi'i achredu gan AdvanceHE.