Ewch i’r prif gynnwys

Statws ffioedd

Rheoliadau sy'n llywodraethu dosbarth ffioedd.

Gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr

Ym Mhrifysgol Caerdydd mae statws ffioedd wedi'i benderfynu yn unol â'r Rheoliadau (Ffioedd a Dyfarniadau) a gydag egwyddorion arweiniol y Brifysgol ar asesu ffioedd.

Guiding principles of fee assessment

Cardiff University guiding principles of fee assessment.

Darllenwch yr anghenion i fyfyrwyr gael eu hystyried yn fyfyrwyr 'cartref' o safbwynt talu ffioedd ar wefan Saesneg allanol UKCISA.

Os bydd eich amgylchiadau chi'n cydfynd gydag un o'r categorïau hyn, byddwn yn codi ffi 'cartref'. Er mwyn i chi fod yn gymwys mewn un categori, rhaid i chi gyrraedd yr holl feini prawf angenrheidiol ar gyfer y categori hwnnw, yn cynnwys unrhyw ofyniad llety. Os nad yw un o'r categorïau hyn yn addas, bydd y Brifysgol yn codi cyfradd dramor y ffioedd dysgu. Eich cyfrifoldeb chi yw bodloni'r Brifysgol eich bod yn gallu cyrraedd meini prawf un o'r categorïau i gael eich ystyried yn fyfyriwr 'cartref'.

Nid oes penderfyniad yn cael ei wneud o ran statws ffioedd nes ein bod wedi derbyn cais ffurfiol wrthoch chi ac yn y rhan fwyaf o achosion, nid tan fod y Tiwtor Derbyniadau wedi penderynu eich bod yn gymwys i gael cynnig lle. Os nad ydym yn gallu pennu eich statws ffioedd o'r wybodaeth a roddwyd yn eich cais, byddwch yn derbyn ebost yn gofyn i chi gwblhau a dychwelyd holiadur asesu ffioedd.

Unwaith bod eich categori statws ffioedd wedi'i benderfynu, byddwn yn eich cynghori o'r ffioedd dysgu sy'n daladwy i Brifysgol Caerdydd. Mae rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu i'w weld ar ein tudalennau ffioedd dysgu israddedig ac ôl-raddedig.

Fee Assessment Questionnaire

Er mwyn i ni asesu statws eich ffi yn gywir, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen hon gyda dogfennaeth ategol briodol. Ein nod yw gwneud penderfyniad ar eich statws ffi cyn pen pythefnos ar ôl derbyn y ffurflen a'r dystiolaeth wedi'i chwblhau.

Os na all eich meddalwedd cynorthwyol ddarllen y ddogfen holiadur asesu ffioedd neu os na allwch gael mynediad i'r ddogfen, anfonwch ebost at admissions-advice@caerdydd.ac.uk. Byddwn yn rhoi rhestr i chi o'r wybodaeth a'r dystiolaeth angenrheidiol y bydd eu hangen i chi ddarparu ar gyfer yr asesiad ffioedd.

Cewch eich dosbarthu ar gyfradd 'uwch' y ffioedd dysgu tra bod eich statws ffioedd yn cael ei adolygu. Wele esboniad o'r hyn a olygir gan 'gyfradd uwch' isod:

Dosbarthiad statws ffioedd posibl Cyfradd uwch
Cartref neu UE/TramorUE/Tramor

Os nad ydych chi'n dychwelyd yr holiadur asesu ffioedd a'r dogfennau cefnogol cysylltiedig, efallai bydd angen i chi dalu'r ffioedd dysgu ar y gyfradd 'uwch.'

Os na ofynnwyd i chi gwblhau holiadur asesu ffioedd a’ch bod chi'n anghytuno â'r statws ffioedd rydym ni wedi'i neilltuo, gallwch gyflwyno holiadur asesu ffioedd.

Pan rydych chi wedi cwblhau eich holiadur asesiad ffioedd, ebostiwch y ffurflen ac unrhyw ddogfennau ategol at: Admissions-advice@caerdydd.ac.uk. Os nad ydych chi'n gallu ebostio'r ffurflen, gallwch ei bostio at:

Y Tîm Derbyn
Tŷ McKenzie
30-36 Heol Casnewydd
Caerdydd CF24 0DE

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ebostiwch Admissions-advice@caerdydd.ac.uk

Sicrhewch fod pob rhan briodol o'r holiadur wedi'i gwblhau'n llawn, a bod copïau o unrhyw ddogfennau ategol wedi'u cynnwys, i helpu i atal oedi gyda'ch asesiad.

Gwybodaeth i fyfyrwyr

Nodwch, unwaith yr ydych yn fyfyriwr cofrestredig, byddwn yn newid eich statws ffioedd os daw hi i'r amlwg bod yna gamgymeriad yn y dosbarthiad gwreiddiol, neu os oes angen newid o dan y rheoliadau.

Os ydych o'r farn bod angen newid eich statws (e.e. bod eich mamwlad wedi ymuno â'r UE), llenwch yr holiadur asesu ffioedd a'i lwytho i fyny drwy wasanaeth Porth Cysylltu Myfyrwyr.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch statws ffioedd neu'ch rheoliadau ffioedd, anfonwch ymholiad drwy Porth Cysylltu Myfyrwyr.