Ewch i'r prif gynnwys
Polisi

Polisi a chanllaw ffioedd dysgu

Prifysgol Caerdydd
Tŷ McKenzie, 30-36 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0DE
  • Swyddfa Arian / Ffioedd Dysgu / Ymholiadau Myfyrwyr
  • Tel: +44 (0)29 2087 9262

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i bolisi teg a thryloyw o ran y ffioedd a’r taliadau y mae’n disgwyl i fyfyrwyr eu talu.

Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i ddiogelu arian cyhoeddus, a sicrhau ei bod yn cyflawni gwerth am arian i’w chwsmeriaid. Mae’r Polisi ffioedd dysgu yn ffurfio rhan o delerau ac amodau’r Brifysgol, a dylid ei ddarllen ar y cyd â nhw. Gyda’i gilydd, maent yn rhoi fframwaith ar gyfer gosod, talu, casglu a chysoni ffioedd dysgu.

Mae cyfraddau ffioedd dysgu’n berthnasol i sesiwn academaidd lawn. Caiff ffioedd dysgu eu pennu ar sail statws ffioedd a’r modd o fynychu, yn dilyn cais ffurfiol am le i astudio yn y Brifysgol. Mae ffioedd yn cael eu hadolygu bob blwyddyn, ac mae’n rhaid eu talu’n llawn ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.

Cyfrifoldeb y myfyriwr yw talu’r ffioedd, ac os yw awdurdod noddi’r myfyriwr (os oes un) yn methu â thalu’r ffioedd, y myfyriwr fydd yn gyfrifol am dalu.

Mae ffioedd cwrs yn cynnwys yr holl elfennau gorfodol sydd eu hangen ar fyfyrwyr er mwyn cyflawni canlyniadau dysgu gofynnol y cwrs. Mewn rhai cyrsiau, gall fod costau ychwanegol dewisol ynghlwm (e.e. teithiau maes, deunyddiau, aelodaeth o gyrff proffesiynol).

Dosbarthiadau statws ffioedd

Mae Prifysgol Caerdydd yn defnyddio canllawiau UKCISA (Cyngor y DU ar gyfer materion myfyrwyr rhyngwladol) er mwyn pennu statws ffioedd.

Gweler gwefan UKCISA i gael manylion am gategorïau a dosbarthiad.

Asesiad Statws Ffioedd ar gyfer Ymgeiswyr

Prifysgol Caerdydd fydd yn penderfynu ar y penderfyniad terfynol ynghylch statws myfyriwr ar gyfer ffioedd yn seiliedig ar wybodaeth unigol yn unol â Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 a Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymwys a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015, ac unrhyw ddiwygiadau dilynol.

Caiff statws ffioedd ei gadarnhau ar ôl derbyn cais ffurfiol llwyddiannus am le yn y Brifysgol (h.y. pan gynigir lle i astudio) gan Dîm Derbyn Myfyrwyr y Brifysgol. Mae statws ffioedd pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol gan aelod o’r Tîm Derbyn Myfyrwyr sydd ag arbenigedd perthnasol.

Penderfynir ar statws ffioedd fel arfer o’r wybodaeth a roddir yn y cais am le. Fodd bynnag, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ofyn am wybodaeth ychwanegol a’r dogfennau gwreiddiol lle bo angen. Bydd methu â chyflwyno dogfennau neu wybodaeth ategol pan ofynnir amdanynt naill ai yn arwain at ddyrannu cyfradd uwch o ran dosbarthiad ffioedd neu benderfyniad i beidio â chynnig lle.

Caniateir o leiaf 14 diwrnod gwaith ar gyfer cyflwyno dogfennau/gwybodaeth. Mae’n rhaid datgelu’r holl wybodaeth/dogfennau perthnasol sy’n hysbys/ar gael ar adeg gwneud y cais. Rhoddir manylion cadarnhad o statws ffioedd yn y cynnig ffurfiol am le. Dylai ymgeiswyr ganiatáu o leiaf 10 diwrnod gwaith ar gyfer penderfyniad ar eu hasesiad. Fel arfer, caiff asesiadau terfynol eu gwneud cyn cofrestru, yn amodol ar gyflwyno’r dogfennau priodol.

Os bydd ymgeisydd yn ennill statws preswylydd sefydlog neu'r cyfnod preswylio arferol perthnasol ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd (fel yr amlinellir yn Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007) ond cyn dechrau'r rhaglen, bydd y Brifysgol o'r farn mai diwrnod cyntaf y rhaglen fydd y dyddiad perthnasol yn statws y cynnig penderfynu.

Asesiadau Statws Ffioedd i Fyfyrwyr

Unwaith y bydd ymgeisydd yn dechrau'r broses gofrestru i ddod yn fyfyriwr, dim ond os daw'n amlwg bod camgymeriad wedi'i wneud yn y dosbarthiad cychwynnol, neu os oes angen addasu o dan y rheoliadau, y bydd addasiad i statws ffioedd yn cael ei gymhwyso.

Apeliadau yn erbyn statws ffioedd

Mae gan bob ymgeisydd yr hawl i apelio yn erbyn statws ffioedd, os yw’n anghytuno â dosbarthiad ei statws ffioedd a bod ganddo seiliau rhesymol dros wneud hynny. Mae seiliau rhesymol fel a ganlyn:

  • Mae gwybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol sy'n dangos bod y dosbarthiad ffioedd yn anghywir ar gael, ac nid oedd ar gael ar adeg yr asesiad cychwynnol; neu
  • Mae’r ymgeisydd yn teimlo nad yw ei asesiad wedi’i drin yn deg nac yn gyson, nac yn unol â rheoliadau swyddogol.

Dylid gwneud pob apêl yn ysgrifenedig at y Pennaeth Derbyn Myfyrwyr o fewn 28 diwrnod i dderbyn cynnig ffurfiol, drwy admissions-advice@caerdydd.ac.uk. Rhaid rhoi eich enw llawn a rhif cais y Brifysgol neu rif adnabod personol UCAS, yn ogystal ag unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth sy’n berthnasol i’r apêl. Dylech hefyd nodi o dan ba gategori yr ydych yn apelio (1. Gwybodaeth newydd neu 2. Asesiad anghywir). Os ydych yn apelio o dan gategori 2 dylech hefyd nodi pa gategori ffioedd UKCISA rydych yn teimlo eich bod yn bodloni a pham.

Bydd y Brifysgol yn rhoi ymateb cychwynnol o fewn 28 diwrnod i dderbyn yr asesiad o statws ffioedd.

Panel Apêl

Pan nad yw’r Adran Derbyn Myfyrwyr yn medru gwneud penderfyniad, neu pan gaiff ail apêl ei chyflwyno ar seiliau rhesymol (fel yr amlinellir uchod), bydd panel yn adolygu’r achos.

Bydd o leiaf tri aelod o staff Prifysgol Caerdydd yn rhan o’r panel apêl, gan gynnwys cynrychiolydd o’r Adran Derbyn Myfyrwyr, yr Adran Gyllid a’r ysgol neu’r coleg academaidd. Ni fydd o leiaf dau aelod o’r panel wedi bod yn rhan o’r asesiad gwreiddiol o’r ffioedd.

Bydd aelodau’r panel yn asesu’r statws ffioedd yn annibynnol, ac yna’n cyfarfod er mwyn trafod eu canfyddiadau. Cynhelir pob apêl mewn modd amserol, a bydd amserlen ar gyfer gwneud penderfyniad yn cael ei rhoi i’r ymgeisydd neu’r parti awdurdodedig sy’n gweithredu ar ran yr ymgeisydd pan gaiff y dystiolaeth/gwybodaeth lawn eu derbyn gan yr ymgeisydd.

Mae’r holl benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y panel yn derfynol, ac nid oes unrhyw hawl bellach i apelio. Bydd y Pennaeth Derbyn Myfyrwyr (neu aelod o staff sy’n gweithredu ar ei ran) yn hysbysu’r ymgeisydd yn ysgrifenedig o’r penderfyniad terfynol.

Adolygiad blynyddol o ffioedd

Myfyrwyr israddedig cartref

Mae’r ffioedd a nodir ar wefan y Brifysgol ar gyfer mynediad yn 2023/2024. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn o wneud cwrs a’r blynyddoedd dilynol, yn unol â’r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru.

Myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir cartref

Mae’r ffioedd a nodir ar wefan y Brifysgol ar gyfer mynediad yn 2023/2024 ac yn sefydlog ar gyfer eich rhaglen gyfan. Gall ffioedd ar gyfer mynediad ym mlynyddoedd dilynol gynyddu, a bydd hyn yn cael ei gadarnhau erbyn diwedd mis Medi yn y flwyddyn cyn dyddiad dechrau eich rhaglen.

Myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig cartref

Mae’r ffioedd a nodir ar wefan y Brifysgol ar gyfer mynediad yn 2023/2024. Gall ffioedd ar gyfer y blynyddoedd i ddod gynyddu yn unol ag argymhellion Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI).

Myfyriwr israddedig o dramor/o'r UE

Mae'r ffioedd a nodir ar wefan y Brifysgol ar gyfer 2023/2024 ac maent wedi'u pennu ar gyfer eich rhaglen gyfan, ac eithrio rhaglenni Meddygaeth a Deintyddiaeth. Ar gyfer Meddygaeth a Deintyddiaeth, mae'r ffi wedi'i phennu ar gyfer blynyddoedd cyn-glinigol, ac ar ôl hynny bydd y gyfradd ffioedd clinigol yn cael ei defnyddio. Os ydych chi'n wladolyn o’r UE/AEE neu’r Swistir nodwch, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd Cartref, y bydd ffioedd dysgu yn codi o fis Medi 2021 yn unol â'r ffioedd a godir ar fyfyrwyr y tu allan i'r UE. O fis Medi 2022 bydd holl fyfyrwyr statws Ynys y Sianel yn cael eu codi yn unol â'r ffi Cartref.

Myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir o dramor/yr UE

Mae’r ffioedd a nodir ar wefan y Brifysgol ar gyfer mynediad yn 2023/2024 ac yn sefydlog ar gyfer eich rhaglen gyfan. Os ydych chi'n wladolyn o’r UE/AEE neu’r Swistir nodwch, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd Cartref, y bydd ffioedd dysgu yn codi o fis Medi 2021 yn unol â'r ffioedd a godir ar fyfyrwyr y tu allan i'r UE.

Myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig o dramor/yr UE

Mae’r ffioedd a nodir ar wefan y Brifysgol ar gyfer mynediad yn 2023/2024 ac yn sefydlog ar gyfer eich rhaglen gyfan. Os ydych chi'n wladolyn o’r UE/AEE neu’r Swistir nodwch, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd Cartref, y bydd ffioedd dysgu yn codi o fis Medi 2021 yn unol â'r ffioedd a godir ar fyfyrwyr y tu allan i'r UE.

Talu ffioedd dysgu

Sut i dalu ffioedd dysgu

Y dull a ffefrir o dalu ffioedd dysgu yw drwy gyfrif SIMS ar-lein myfyrwyr y Brifysgol. Fel arall, gellir talu drwy ddebyd uniongyrchol neu, mewn rhai amgylchiadau, trosglwyddiad banc yn uniongyrchol i gyfrif Ffioedd Dysgu cywir y Brifysgol. Gellir dod o hyd i fanylion ar y mewnrwyd myfyrwyr.

Sylwer, nid yw taliadau arian parod byth yn cael eu derbyn gan y Brifysgol. Bydd unrhyw daliadau arian parod yn cael eu dychwelyd i'r talai ac ni fyddant yn cael eu dyrannu i gofnod y myfyriwr.

Rhaid talu unrhyw ffioedd dysgu o £500 neu lai mewn un rhandaliad ac felly nid ydynt yn gymwys i gael eu talu drwy ddebyd uniongyrchol.

Rhaid talu'r holl ffioedd dysgu o fewn y flwyddyn academaidd y maent yn berthnasol iddi.

Caniateir i fyfyrwyr dalu eu ffioedd fel a ganlyn:

Myfyrwyr israddedig cartref (gan gynnwys arian Cyllid Myfyrwyr)

  • Taliad llawn cyn cofrestru neu wrth gofrestru.
  • Taliad drwy ddebyd uniongyrchol o gyfrif banc y DU, mewn tri rhandaliad ar y dyddiadau priodol a hysbyswyd yn SIMS fel a ganlyn.
    • 1af 25%
    • 2il 25%
    • 3ydd 50%
  • Drwy dalu  25% o gyfanswm y ffi ar ddechrau'r sesiwn academaidd ac yna un taliad dilynol o 25% a thaliad terfynol o 50% ar y dyddiadau dyledus a hysbyswyd yn SIMS.

Sylwer: Bydd myfyrwyr y gwrthodir eu cais am gyllid Cyllid Myfyrwyr am unrhyw reswm yn cael eu newid i statws hunan-dalwr ac yn dod yn uniongyrchol gyfrifol am dalu eu ffioedd dysgu. Os caiff cais Cyllid Myfyrwyr ei gymeradwyo wedyn, bydd ad-daliad yn cael ei wneud lle bo hynny'n berthnasol.

Holl fyfyrwyr israddedig o dramor/o'r UE

  • Taliad llawn cyn cofrestru neu wrth gofrestru.
  • Taliad drwy ddebyd uniongyrchol o gyfrif banc y DU, mewn tri rhandaliad ar y dyddiadau priodol a hysbyswyd yn SIMS fel a ganlyn.
    • 1af 33%
    • 2il 33%
    • 3ydd 34%
  • Drwy dalu traean o'r ffi cyn neu wrth gofrestru, ac yna traean o'r ffi ar y dyddiadau dyledus priodol a hysbyswyd yn SIMS.

Holl fyfyrwyr ôl-raddedig

  • Taliad llawn cyn cofrestru neu wrth gofrestru.
  • Taliad drwy ddebyd uniongyrchol o gyfrif banc y DU, mewn tri rhandaliad ar y dyddiadau priodol a hysbyswyd yn SIMS fel a ganlyn.
    • 1af 33%
    • 2il 33%
    • 3ydd 34%
  • Drwy dalu traean o'r ffi cyn neu wrth gofrestru, ac yna traean o'r ffi ar y dyddiadau dyledus priodol a hysbyswyd yn SIMS.

Myfyrwyr a noddir (nad ydynt yn cael eu hariannu gan Gyllid Myfyrwyr)

Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno prawf o nawdd i'r Adran Incwm (yr Adran Gyllid). Cyfrifoldeb y myfyriwr yw hysbysu ei noddwr y bydd ffioedd dysgu yn cael eu talu 30 diwrnod o ddyddiad yr anfoneb. Gellir gweld yr holl anfonebau ar gyfrif SIMS ar-lein myfyrwyr y Brifysgol. Mewn achos lle na fydd noddwyr yn talu ffioedd, y myfyriwr fydd yn gyfrifol am dalu’r ffi lawn.

Os bydd myfyriwr yn derbyn nawdd neu ffioedd dysgu rhannol, (oni bai bod y noddwr yn deddfu fel arall), didynnir y rhan a noddir o’r ffi gyfan, a bydd y myfyriwr yn atebol am y gweddill. Caiff y balans ei dalu yn unol â'r wybodaeth a nodir uchod yn 'Sut i dalu ffioedd dysgu'.

Talu ffioedd dysgu ac arian arall yn hwyr neu fethu â’u talu

Wrth gofrestru, bydd myfyrwyr yn cael cadarnhad o ddyddiadau talu eu ffioedd dysgu, yn unol â’r dull talu a ddewisir ganddynt. Hysbysir myfyrwyr hefyd am bwysigrwydd hysbysu’r Adran Incwm (Adran Gyllid) os oes ganddynt amgylchiadau unigol a allai fod yn achosi anhawster o ran gwneud taliad i’r ffioedd dysgu erbyn y dyddiad cau. Dylai myfyrwyr sy'n dymuno gwneud addasiad i'w dyddiadau talu ffioedd dysgu presennol, lenwi'r ffurflen ar-lein.

Bydd yr Adran Incwm (Tîm Ffioedd Dysgu) yn cysylltu â myfyrwyr drwy eu cyfeiriad ebost prifysgol, ar ôl y dyddiad cau ar gyfer talu naill ai ffi ddysgu neu unrhyw swm arall sy'n ddyledus.

Bydd myfyrwyr yn cael cyngor o ran:

  • bod y dyddiad talu dyledus wedi mynd heibio
  • pan fydd angen talu er mwyn osgoi unrhyw gyswllt pellach drwy ebost neu, yn achos ôl-ddyledion ffioedd dysgu, y gallent fod mewn perygl o gael eu dadgofrestru
  • cyn dadgofrestru bydd myfyrwyr yn cael ebost yn rhoi 7 diwrnod o rybudd ymlaen llaw, a anfonir i'w cyfeiriadau ebost Prifysgol a chartref.

Rhaid i fyfyrwyr gysylltu ar frys â'r Adran Incwm drwy’r Porth Cyswllt Myfyrwyr os ydynt yn cael unrhyw anhawster wrth dalu ffioedd dysgu neu Income@caerdydd.ac.uk am unrhyw ddyled arall. Gall yr Adran Incwm adolygu unrhyw amgylchiadau unigol a gyflwynir ac addasu taliadau lle bo hynny'n berthnasol. Os bydd myfyriwr yn torri unrhyw drefniadau arbennig ar gyfer talu sydd wedi'u cymeradwyo gan yr Adran Incwm, gallent fod mewn perygl o gael eu dadgofrestru.

Os bydd myfyriwr yn cael ei ddadgofrestru oherwydd nad yw wedi talu ffioedd dysgu, bydd y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i'r Gofrestrfa a fydd yn hysbysu'r partïon perthnasol h.y. ysgolion academaidd, llyfrgelloedd ac adrannau gweinyddol eraill.

Gohirio astudiaethau

Bydd pob myfyriwr sy'n cael caniatâd i gymryd ymyriad o astudio gan eu hysgol yn gorfod talu ffioedd dysgu yn cadarnhau eu hatebolrwydd ariannol os na fyddant yn dychwelyd i barhau â'u hastudiaethau fel a ganlyn:

Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy'n hunan-dalu

O ddyddiad gohiriad yr astudiaethau, codir ffioedd pro-rata yn seiliedig ar nifer yr wythnosau a gofrestrwyd i astudio, fel y'u cofnodwyd gan y Gofrestrfa ar gofnod SIMS y myfyriwr.

Myfyrwyr israddedig a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr

O ddyddiad gohiriad yr astudiaethau, cofnodir ffioedd a godir yn seiliedig ar y dyddiad y caiff ei gofnodi bod y myfyriwr wedi gohirio ei astudiaethau gan y Gofrestrfa ar gofnod SIMS y myfyriwr, a’r adegau y mae cyfrifoldeb talu cyllid myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd honno. Mae manylion am y dyddiadau talu i'w gweld ar yr dudalen Cyllid ffioedd tynnu a dysgu.

Dychwelyd ar ôl gorhirio astudiaethau

Mae rhaid I bob myfyriwr israddedig ac uwchraddedig sy’n ddychwelyd i astudiaeth ar ôl tor astudiaethau dalu mantol sy’n ddyledus ar gyfer y cwrs academaidd roeddent yn astudio pan ddechreuodd eu dor astudiaethau. Er engraifft, os ydy ffi’r cwrs yn £9,000 ac mae £4,500 wedi’i dalu cyn i’r tor astudaiaethau gychwyn, yna mae’n rhaid talu £4,500 cyn ddychwelyd I astudio. Sylwch, mae hyn ddim ond yn berthnasol i myrfyrwyr sydd yn ddychwelyd i astudiaeth o fewn dwy flynedd o ddechrau eu tor astudiaethau. Ar gyfer y myrfyrwyr sydd yn ddychwelyd I astudiaeth ar ôl dwy flynedd o ddechrau tor astudiaethau, mae rhaid sicrhau taliad yn llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd Newydd.

Graddio

Os bydd gan fyfyriwr israddedig ffioedd dysgu neu arian arall i’w talu ar adeg graddio, caniateir iddo fynd i’r seremoni raddio ond ni fydd yn cael ei ardystiad llawn hyd nes y daw'r holl daliadau dyledus i law. Ni fydd myfyrwyr ôl-raddedig yn cael eu gwahodd i'w seremoni raddio nes bod eu dyfarniad wedi'i gadarnhau gan y Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd, ac mae’n rhaid bod yr holl ffioedd wedi'u talu.

Ad-dalu ffioedd dysgu

Dim ond i'r talai a'r cyfrif banc gwreiddiol y bydd ad-daliadau'n cael eu gwneud.

Tynnu’n ôl

Rhoddir cyfnod o bythefnos i bob myfyriwr ar ddechrau cwrs pan na chodir ffioedd dysgu. Os bydd myfyriwr yn tynnu'n ôl ar ôl y cyfnod hwn, codir ffioedd arnynt ar y sail ganlynol.

Myfyrwyr israddedig cartref a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr

Codir y taliadau sylfaenol canlynol ar yr holl fyfyrwyr Cartref sy’n cael eu hariannu gan Gyllid Myfyrwyr:

  • Tymor 1: Nid oes unrhyw ffioedd yn daladwy os byddant yn tynnu'n ôl ar neu cyn 15 Hydref 2023. Os byddant yn tynnu’n ôl rhwng 16 Hydref 2023 a 21 Ionawr 2024, bydd 25% o'r ffi lawn yn daladwy.
  • Tymor 2: Os byddant yn tynnu’n ôl cyn 21 Ionawr 2024, bydd 25% o'r ffi lawn yn daladwy. Os byddant yn tynnu’n ôl rhwng 22 Ionawr 2024 a 14 Ebrill 2024, bydd 50% o'r ffi lawn yn daladwy.
  • Tymor 3: Os byddant yn tynnu'n ôl ar 14 Ebrill 2024 neu cyn hynny, bydd 50% o'r ffi lawn yn daladwy. Os byddant yn tynnu'n ôl rhwng 15 Ebrill 2024 a 14 Mehefin 2024 bydd y ffi lawn yn daladwy.

Noder: mae'r dyddiadau cau uchod yn berthnasol i'r adeg pan gaiff cofnod y myfyriwr ei ddiweddaru ar SIMS nid pan wneir cais i dynnu'n ôl.

I gael rhagor o fanylion, ewch i’r dudalen Cyllid Ffioedd tynnu a dysgu ar y we.

Cartref/Tramor/EU – myfyrwyr nad ydynt wedi’u hariannu gan Gyllid Myfyrwyr

Codir tâl ar yr holl fyfyrwyr eraill nad ydynt yn cael eu hariannu gan Gyllid Myfyrwyr, ar ôl tynnu unrhyw flaendal na ellir ei ad-dalu ar sail pro-rata, yn ôl nifer yr wythnosau o bresenoldeb ers dechrau’r cwrs blwyddyn academaidd o 32 wythnos – neu 52 wythnos i ôl-raddedigion. Gwneir ad-daliad priodol os bydd angen.

Methiant Academaidd

Os na fyddwch yn llwyddo i gwblhau pob elfen o'ch astudiaethau academaidd ac yn gadael gyda dyfarniad llai, ni fyddwch yn gymwys i gael ad-daliad o’r ffioedd dysgu am yr elfen o'ch cwrs na wnaethoch ei chwblhau.

Bwrsariaethau, ysgoloriaethau a Dyfarniadau eraill

Os yw myfyriwr yn gymwys i gael dyfarniad tuag at ei ffioedd dysgu, ei gyfrifoldeb yw sicrhau bod y Tîm Incwm (Adran Gyllid) yn cael gwybod am y dyfarniad hwn os nad yw’n cael ei rhoi’n awtomatig ar ei gofnod myfyriwr. Gellir gweld y dyfarniad sy'n cael ei gymhwyso fel rhan o dasg cofrestru ar-lein y myfyriwr. Os nad yw'r dyfarniad yn ymddangos fel y'i cymhwysir, dylai'r myfyriwr, yn y lle cyntaf, gysylltu â'r corff dyfarnu.

Enw'r DdogfenPolisi Ffioedd Dysgu
Awdur/Enw Cyswllt ArweiniolAlan James, Pennaeth Incwm, Cyllid.
Ruth Williams-Sharp, Rheolwr Cymorth Derbyn Myfyrwyr, Derbyn Myfyrwyr
Canlyniad yr Effaith ar Gydraddoldeb a Dyddiad Cyflwyno’r Ffurflen 
Dyddiad Cymeradwyo 
Cymeradwywyd GanWedi'i ddirprwyo gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol i'r Prif Swyddog Ariannol
Dyddiad Dechrau15 Chwefror 2022
Dyddiad yr Adolygiad Diwethaf18 Ionawr 2024
Dyddiad yr Adolygiad Nesaf1 Gorffennaf 2024
Dogfennau Polisi Cysylltiedig y BrifysgolAMHERTHNASOL
At Ddefnydd y Swyddfa – Allweddeiriau ar gyfer y nodwedd chwilio

Document history

Sesiwn AcademaiddCyfnod CofrestruCyfnod Gorfodi Perchennog y Ddogfen
2023/2024 01 Awst 2021 - 31 Gorffennad 2022Academaidd 2023/2024
Sesiwn
Yr Adran Gyllid

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Polisi a chanllaw ffioedd dysgu
Awdur(on):Yr Adran Gyllid
Statws y ddogfen:Cymeradwywyd