Academyddion ar flaen y gad yn yr ymchwil i Brexit

29 Mawrth 2018

british-and-eu-flags

Mae academyddion Prifysgol Caerdydd yn chwarae rôl ganolog wrth asesu effaith Brexit.

Ers canlyniad y refferendwm bron i ddwy flynedd yn ôl, mae arbenigwyr o'r sefydliad wedi bod yn cynnal ymchwil fanwl a helaeth – mewn meysydd sy’n amrywio o Wleidyddiaeth ac Economeg, i’r Amgylchedd a Newyddiaduraeth. 

Yn ogystal ag esbonio’r cyd-destun tu ôl i’r bleidlais hanesyddol, mae eu gwaith hefyd yn rhoi gwell dealltwriaeth o sut bydd bywyd i’r bobl fydd yn byw yn y DU wedi i’r wlad adael Ewrop mewn blwyddyn. 

Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd yn dangos effaith Brexit ar nifer o feysydd, gan gynnwys:

  • Agweddau’r cyhoedd: Mae gwaith yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethant Cymru yn canolbwyntio ar farn y cyhoedd tuag adeg y bleidlais ac ers hynny, sydd wedi’i olrhain drwy eu Harolwg Baromedr Gwleidyddol Cymru.
  • Pobl ifanc: Fe holodd y Doctoriaid Stuart Fox a Sioned Pearce o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), 15,000 o bobl ifanc ledled y DU i asesu effaith Brexit ar eu hymgysylltiad gwleidyddol.
  • Gwledydd datganoledig: Mae’r Doctoriaid Jo Hunt a Rachel Minto o Ganolfan Llywodraethant Cymru yn edrych ar Refferendwm yr UE o safbwynt datganoledig, ac yn bwydo i drafodaethau gwleidyddol am ddyfodol Cymru ar ôl Brexit.
  • Busnes a'r economi: Mae’r Athro Max Munday o Ysgol Busnes Caerdydd wedi bod yn ymchwilio i sut gallai Brexit effeithio ar busnesau mawr yng Nghymru, ac mae wedi cyfrannu at adroddiad a ysgrifennwyd gan Lywodraeth Cymru. Yr Athro Patrick Minford, sydd hefyd o Ysgol Busnes Caerdydd, yw cadeirydd grŵp Economegwyr y Fasnach Rydd.
  • Masnach ryngwladol: Mae Dr Ricardo Pereira o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi ymchwilio i effaith Brexit ar y gyfraith masnachu rhyngwladol.
  • Rôl y cyfryngau darlledu: Fe ddadansoddodd yr Athro Stephen Cushion a’r Athro Justin Lewis o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, ffynonellau ac ystadegau mewn adroddiadau newyddion yn ystod ymgyrch y refferendwm.
  • Cyfryngau print: Astudiodd Dr Lucy Bennett a Dr Inaki Garcia-Blanco, o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, 1,419 o lythyrau i’r golygydd a ymddangosodd mewn papurau newydd yn ystod y deufis cyn y Refferendwm.
  • Polisi gwastraff a’r amgylchedd: Ymgymerodd yr Athro Richard Cowell o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, ag ymchwil ynglŷn â pholisïau gwastraff a'r amgylchedd, gan ystyried sut byddai atebion mwy gwyrdd yn parhau heb ddeddfwriaeth yr UE. Mae'r Athro Ben Pontin o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi edrych ar ddylanwad hanesyddol deddfau amgylcheddol Prydain o gymharu â gweithredu deddfwriaeth yr UE.
  • Amaethyddiaeth: Mae’r Dr Ludivine Petetin, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, yn edrych ar yr heriau a'r cyfleoedd sy’n wynebu’r sectorau bwyd a ffermio ar ôl Brexit.
  • Yr effaith ar fewnfudwyr: Arweiniodd Dr Dawn Mannay o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, brosiect i asesu sut mae Brexit wedi effeithio ar bobl o Ewrop sy'n byw yng Nghymru, gan edrych yn benodol yn y tair rhanbarth yng Nghymru a bleidleisiodd dros 'aros'.
  • Iaith: Mae'r Athro Diarmait Mac Giolla Chriost wedi ymchwilio i sut bydd Brexit yn effeithio ar ieithoedd lleiafrifol – yn y DU ac yn Ewrop.

Mae meysydd ymchwil pwysig eraill yn cynnwys troseddau a diogelwch, technoleg, a pholisi iechyd a chymdeithasol.

Yn ôl yr Athro George Boyne, Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae ein hacademyddion yn defnyddio’u gwybodaeth a’u harbenigedd helaeth i lywio'r ddadl ynghylch Brexit. Mae eu gwaith ymchwil a dadansoddi manwl yn ehangu ein dealltwriaeth o beth yw goblygiadau’r penderfyniad hwn i’r DU, yn y wlad hon ac yn rhyngwladol. 

"Wrth inni agosáu at y newid sylfaenol hwn ym mherthynas y DU gyda'r UE, nid oes gennyf amheuaeth y bydd eu gwaith yn parhau i gael dylanwad enfawr ar lunio polisïau ac ar ganfyddiadau'r cyhoedd o Brexit."

Rhannu’r stori hon