Ewch i’r prif gynnwys

"Gadael yr UE - Dim troi’n ôl”

3 Awst 2016

Discussion

Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal trafodaeth yn yr Eisteddfod eleni a fydd yn ystyried beth fydd gadael yr UE yn ei olygu i Gymru a'r DU.

Gareth Hughes, sy’n newyddiadurwr uchel ei barch, fydd yn cadeirio’r sesiwn, a bydd yn cynnwys cyflwyniad gan yr Athro Richard Wyn Jones a’r Athro Roger Scully.

Byddant yn edrych ar y patrymau pleidleisio yn y refferendwm, ac yn cyflwyno tystiolaeth newydd ar yr hyn y mae'r cyhoedd am ei weld yn digwydd mewn gwirionedd wrth adael yr UE.

Dywedodd Yr Athro Roger Scully, Canolfan Llywodraethiant Cymru: "Mae canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin wedi trawsnewid y dirwedd wleidyddol ledled y DU ac yng Nghymru ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.”

Bydd y cyflwyniad wedyn yn asesu'r opsiynau ymarferol wrth adael, a'r heriau gwleidyddol a phroblemau y gallai’r rhain eu hachosi - yng Nghymru a ledled y DU yn ei chyfanrwydd.

Ychwanegodd Yr Athro Roger Scully: “Ac eto, ychydig ohonom sy’n deall mewn gwirionedd pa mor bellgyrhaeddol fydd goblygiadau posibl y refferendwm. Dywedir wrthym nad oed dim troi’n ôl bellach, ond nid yw’n glir o gwbl beth fydd gadael yr UE yn ei olygu.”

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC: "Bydd y bleidlais i adael yn Refferendwm yr UE yn cael effaith bellgyrhaeddol ar gyfeiriad ein cenedl a’r Cynulliad.  Bydd angen i Gymru a'r Cynulliad gael llais cryf a bod yn flaenllaw i wneud yn siŵr bod buddiannau a materion Cymreig yn rhan ganolog o unrhyw drafodaethau am ddyfodol y DU.

"Mae’r Cynulliad wedi bod yn brysur yn ceisio mynd i'r afael â goblygiadau canlyniad refferendwm yr UE, ac mae wedi sefydlu Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ystyried yr effaith ar Gymru.

"Nid yw'r strwythurau cyfansoddiadol presennol na threfniadau mewnol y DU yn ddigon cadarn na ffurfiol i alluogi hyn – mae angen rhoi prosesau newydd, cryfach a mwy ffurfiol ar waith ar lefelau rhyng-lywodraethol a rhyng-seneddol.

"Edrychaf ymlaen at glywed barn y panel."

Cynhelir y digwyddiad ar 3 Awst rhwng 11.30am a 12.30pm ym Mhabell y Cymdeithasau 2.