Ewch i’r prif gynnwys

Manteision ariannol

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, rydym yn cynnig cynlluniau pensiwn, talebau gofal plant a chyfraddau is ar aelodaeth chwaraeon, ymhlith pethau eraill, i bob aelod o staff.

Cyflog cystadleuol

Rydym yn gwobrwyo ein staff â chyflogau cystadleuol gyda chynnydd costau byw blynyddol.

Cynlluniau pensiwn

Rydym yn cynnig dau gynllun pensiwn cyfrannol a byddwch yn cael eich cynnwys yn awtomatig yn y cynllun perthnasol ar gyfer eich math o swydd.

Os ydych yn ymuno â ni o gyflogwr y GIG ac wedi bod yn aelod o gynllun pensiwn y GIG, efallai y byddwch yn gallu aros yn y cynllun hwnnw.

Cynllun beicio i'r gwaith

Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i feithrin iechyd a lles staff, datblygu a hyrwyddo polisi teithio cynaliadwy ac annog diwylliant beicio o fewn y brifysgol. Mae ein cynllun Beicio i'r gwaith yn galluogi cyflogwyr i logi beiciau ac offer diogelwch cysylltiedig hyd at werth o £3,000 trwy gynllun aberthu cyflog.

Benthyciadau teithio blynyddol

O dan Gynllun Gweithredu Teithio Cynaliadwy'r brifysgol, rydym yn annog defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy a fydd yn helpu lleihau allyriadau carbon. Mae cynllun Benthyciadau Tocyn Tymor Teithio Blynyddol yn eich galluogi i wneud cais am fenthyciad di-log gan y brifysgol, a fydd yn prynu tocyn teithio blynyddol ar eich rhan. Mae'r rhaid talu'r swm yn ôl dros 10 mis.

Meithrinfa Ysgolheigion Bach

Mae meithrinfa'r brifysgol yn darparu gofal ar gyfer plant 10 wythnos i bum mlwydd oed ein staff a’n myfyrwyr.

Cyfraddau is ar aelodaeth chwaraeon

Mae gan y brifysgol ystod eang o gyfleusterau chwaraeon a hamdden y caiff staff eu defnyddio ar gyfraddau is. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleusterau ffitrwydd, cyrtiau chwaraeon, dosbarthiadau ffitrwydd grŵp ac ymgynghoriadau hyfforddiant personol.

Cymorth adleoli

Rydym yn cynnig cymorth ariannol i staff newydd sy’n adleoli er mwyn iddynt gymryd eu swydd newydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth i weld os ydych yn gymwys am gefnogaeth adleoli a sut i'w hawlio

Mae gennym hefyd gynllun benthyciadau di-log i helpu gyda'r gost sy'n gysylltiedig â mewnfudo. Mae darpar aelodau o staff sydd wedi cael cynnig ac sydd wedi llofnodi contract cyflogaeth gyda'r brifysgol yn gymwys i wneud cais:

Dysgwch am y Cynllun Benthyciadau Staff Rhyngwladol

Cyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Pobl Caerdydd