Ewch i’r prif gynnwys

Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Mae ein polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd yn cynnig hyblygrwydd a chymorth ychwanegol i rieni newydd a darpar rieni.

Tâl mamolaeth a mabwysiadu

Byddwch yn gymwys i dderbyn Tâl Mamolaeth y Brifysgol neu Dâl Mabwysiadu’r Brifysgol os oes gennych fwy na 26 wythnos o wasanaeth parhaus gyda’r Brifysgol erbyn y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'r babi gael ei eni neu ei leoli, ac yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith yn llawn amser neu'n rhan-amser am o leiaf 26 wythnos ar ôl i'ch cyfnod mamolaeth ddod i ben.

Byddwch yn derbyn Tâl Mamolaeth y Brifysgol neu Dâl Mabwysiadu’r Brifysgol am 26 wythnos:

  • 26 wythnos ar gyflog llawn (gan gynnwys Tâl Mamolaeth Statudol)

Yna byddwch yn derbyn 13 wythnos Tâl Mamolaeth/Tâl Mabwysiadu Statudol a byddwch yn gallu cymryd hyd at 13 wythnos o absenoldeb heb dâl.

Cyfnod absenoldeb mamolaeth a mabwysiadu

Gallwch gymryd hyd at 52 wythnos o gyfnod mamolaeth neu gyfnod mabwysiadu. Y cynharaf y gallwch ddechrau eich cyfnod absenoldeb yw 11 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'r babi gael ei eni, neu y caiff y plentyn ei leoli gyda chi i'w fabwysiadu. Bydd y cyfnod o absenoldeb hefyd yn dechrau:

  • y diwrnod ar ôl yr enedigaeth os yw'r babi yn gynnar
  • yn awtomatig os ydych chi i ffwrdd o'r gwaith gyda salwch sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd yn y 4 wythnos cyn yr wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) y disgwylir i'r babi gael ei eni.

Absenoldeb tadolaeth

Byddwch chi’n gymwys i gael absenoldeb Tadolaeth y Brifysgol (4 wythnos ar gyflog llawn) ar yr amod bod gennych 26 wythnos o wasanaeth parhaus erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i’r babi gael ei eni, ac mai chi:

  • yw partner mam y plentyn, a’ch bod
  • yn disgwyl dwyn y prif gyfrifoldeb am fagu’r plentyn (ar wahân i gyfrifoldeb y fam).

Mae gennych hawl hefyd i AbsenoldebTadolaeth Statudol Arferol os oes gennych gyfrifoldebau rhiant dros y babi a’ch bod wedi gweithio 26 wythnos o wasanaeth parhaus ar ddiwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i’r babi gael ei eni.

Absenoldeb rhiant a rennir

Mae absenoldeb rhiant a rennir yn galluogi rhieni cymwys i ddewis sut i rannu'r gwaith o ofalu am eu plentyn yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i'r plentyn gael ei eni neu'i fabwysiadu. Ei ddiben yw rhoi mwy o hyblygrwydd i rieni wrth iddynt ystyried beth yw'r ffordd orau o fondio â'u plentyn a gofalu amdano.

Byddwch yn gymwys i gael absenoldeb rhiant a rennir gan y Brifysgol ar yr amod bod gennych o leiaf 26 wythnos o wasanaeth parhaus yn parhau i 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni, ac yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith yn llawn amser neu’n rhan-amser am o leiaf 26 wythnos ar ôl i’ch absenoldeb rhiant a rennir ddod i ben.

Byddwch yn derbyn cyflog rhiant a rennir gan y Brifysgol am 26 wythnos:

  • 26 wythnos ar gyflog llawn (gan gynnwys tâl rhiant statudol a rennir)

Mae gan bob gweithiwr cymwys hawl statudol i gymryd absenoldeb rhiant a rennir. Efallai y bydd gan weithwyr hawl hefyd i rywfaint o dâl rhiant a rennir. Mae'r polisi hwn yn nodi hawliau statudol a chyfrifoldebau gweithwyr sy'n dymuno cymryd absenoldeb rhiant a rennir a thâl rhiant statudol a rennir.

Mae taliadau statudol yn berthnasol i'r math hwn o absenoldeb.

Darllenwch ragor am absenoldeb a thâl rhiant a rennir.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Pobl Caerdydd