Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd a chefnogaeth addysgu

Rydym yn sefydliad gradd arian yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, ac mae gennym athrawon blaenllaw sy’n cael eu hysgogi gan greadigrwydd a chwilfrydedd. Rydym yn helpu’r staff i ddatblygu eu harferion dysgu ac addysgu a, thrwy hynny, wella profiad myfyrwyr.

Rydym yn buddsoddi mewn arloesedd addysg ac mewn dathlu rhagoriaeth addysgu – mae gennym 10 Cymrawd Addysgu Cenedlaethol, 4 Prif Gymrawd a 58 Uwch Gymrawd.

Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg Prifysgol Caerdydd

Disodlodd y rhaglenni Cymrodoriaethau’r rhaglenni Arfer Academaidd a Dysgu i Addysgu blaenorol ym mis Medi 2021. Mae’r rhaglenni Cymrodoriaethau yn agored i’r holl staff a myfyrwyr ôl-raddedig sy’n ymwneud ag addysgu a/neu gymorth dysgu.

Mwy o wybodaeth am y rhaglenni

Fframwaith Addysg Ddigidol

Yn 2020, gwnaethom ddatblygu ein Fframwaith Addysg Ddigidol er mwyn helpu ein staff addysgu i roi profiad dysgu cyfunol a dysgu ar-lein o ansawdd uchel i'n myfyrwyr.

Gwnaethom greu ystod o adnoddau cymorth i helpu ein staff i addasu i ddysgu ar-lein a dysgu cyfunol, ac mae’r Tîm Addysg Ddigidol yn arwain ac yn cefnogi ystod o arferion, prosiectau a mentrau addysg ddigidol ar draws y Brifysgol.

Yn 2021, trefnwyd bod LinkedIn Learning hefyd ar gael yn rhad ac am ddim i holl staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a hynny gyda thrwydded i’r Brifysgol gyfan.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus – tiwtora personol

Mae gan Brifysgol Caerdydd adnodd ar-lein sydd wedi’i gynllunio i fod yn ganllaw hygyrch ac effeithiol i diwtoriaid personol newydd a phresennol.

Mae’r adnodd, a grëwyd gan y rhwydwaith o uwch diwtoriaid personol ar y cyd â’r Gwasanaethau Proffesiynol a’r gymuned myfyrwyr, yn ceisio rhoi amrywiaeth o wybodaeth a chymorth cyffredinol i diwtoriaid personol er mwyn cefnogi naws y rôl, sy’n cynnwys:

  • pennu ffiniau proffesiynol a'u cynnal
  • defnyddio offer a dulliau cyfathrebu effeithiol
  • gwneud gwaith tiwtora personol o bell
  • cefnogi myfyrwyr drwy eu cyfeirio a’u hatgyfeirio’n effeithiol at wasanaethau cymorth perthnasol
  • gwneud astudiaethau achos seiliedig ar senarios o’r gwahanol heriau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu i’w helpu i ystyried ac addasu eu hymarfer

Digwyddiadau hyfforddiant dysgu ac addysgu

Rydym yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau hyfforddiant i'n holl staff. Gall pobl allanol ddod i rai digwyddiadau. Rydym yn cynnal cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol sy'n gyfle i gydweithwyr a myfyrwyr rannu eu profiadau dros y flwyddyn ddiwethaf ac edrych ymlaen at ddyfodol dysgu ac addysgu.

Pori ein digwyddiadau a chofrestru

Cysylltu

Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd