Chwaraeon
Mae ein holl ganolfannau chwaraeon a gweithgareddau ar gael i’r cyhoedd ac i fusnesau eu llogi.
Mae ein cyfleusterau ar gau ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Lefel 4 Llywodraeth Cymru yng Nghymru.
Yn dilyn cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae cyfyngiadau lefel uwch i bob canolfan hamdden a ffitrwydd yn parhau i fod ar waith i reoli coronafeirws (COVID-19).
Rydym yn monitro'r canllawiau hyn a bydd ein cyfleusterau'n parhau i fod ar gau hyd nes y clywir yn wahanol. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein hailagor arfaethedig.
Cymerwch ran mewn chwaraeon elît a hamdden ochr yn ochr â’ch astudiaethau, gyda thros 60 o glybiau a phedair canolfan chwaraeon ymroddedig ar y campws.
Ymunwch cyn i chi gyrraedd Prifysgol Caerdydd a dechreuwch ymarfer a gwneud ffrindiau newydd yn syth.
I gael mynediad i amrywiaeth o weithgareddau dan do ac awyr agored ar draws y pedair ganolfan y Brifysgol.
Mae ein rhaglenni canolfannau datblygu ieuenctid yn darparu mynediad unigryw i ymarferion a hyfforddiant o ansawdd o fewn llwybrau datblygu chwaraewyr.
Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o ddosbarthiadau ffitrwydd yng nghanolfannau Plas y Parc a Thalybont.
Lawrlwythwch yr ap am ffordd newydd sbon o ymgolli mewn chwaraeon a ffitrwydd.