Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun benthyciadau i staff rhyngwladol

Rydym wedi cyflwyno cynllun benthyciadau di-log i gynorthwyo gyda'r gost sy'n gysylltiedig â mewnfudo.

Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gymuned amrywiol a chynhwysol ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cydweithwyr rhyngwladol.

Mae'r Brifysgol wedi cyflwyno'r fenter hon i gefnogi staff presennol, a lle y bo'n briodol, darpar staff a'u dibynyddion agosaf sydd â chostau cysylltiedig â mewnfudo i'r DU yn ystod eu cyflogaeth yn y Brifysgol neu wrth ymgymryd â chyflogaeth gyda ni. Mae'r fenter hon ar ffurf benthyciad di-log ac mae ar gael i staff ym mhob llwybr gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar gyfer staff newydd, bydd y Brifysgol yn talu trwy drosglwyddiad banc unwaith y byddant yn dechrau ar eu swyddi. Fodd bynnag, os oes angen y benthyciad ar yr adeg y telir y ffioedd mewnfudo, gellir trefnu hyn os cânt eu cymeradwyo.

Gwneud cais

Cwblhewch ac anfonwch y Ffurflen Gais am Fenthyciad Staff Rhyngwladol i'ch Rheolwr Adnoddau Dynol Lleol . Dim ond os defnyddiwyd y ffurflen y gallwn dderbyn ceisiadau.

International staff loans form for prospective staff

This form is to be used when a prospective employee has signed a contract of employment with Cardiff University and intends to apply for an international staff visa loan.

I gefnogi'r cais, bydd angen i chi ddarparu dadansoddiad llawn o'r costau gwirioneddol neu'r gost a ragwelir a manylion ynghylch pwy y maent yn berthnasol iddynt.

Gallwch wneud cais am fenthyciad ar gyfer y cyfan neu ran o'r ffioedd yr ydych wedi'u talu, neu ar fin eu talu, ar gyfer ffioedd sy'n gysylltiedig â Mewnfudo.

  • Os ydych eisoes wedi talu'r ffioedd, rhaid i chi atodi dogfennau ategol (derbynebau/anfonebau).
  • Os ydych am gael benthyciad cyn talu, rhaid i chi ofyn am y swm sydd ei angen arnoch chi ar gyfer y taliadau yn unig a rhaid i chi gyflwyno derbynebau/anfonebau i Adnoddau Dynol cyn gynted ag y byddant ar gael.

Byddwch yn cael e-bost gyda chanlyniad eich cais, cyn i'r benthyciad gael ei drosglwyddo i'ch cyfrif banc.

Pobl Caerdydd