Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau a gwasanaethau

Gall pob aelod o staff ddefnyddio ein llyfrgelloedd, ystafelloedd cyfrifiaduron, Meithrinfa Ysgolheigion Bach a bwytai - yn ogystal â’r cyfleusterau yn Undeb y Myfyrwyr.

Meithrinfa Ysgolheigion Bach

Mae Meithrinfa Ysgolheigion Bach yn darparu gofal ar gyfer plant 10 wythnos i bum mlwydd oed ein staff a’n myfyrwyr. Fe’i henwyd yn Feithrinfa Gymraeg y Flwyddyn 2010 gan yr NDNA (y Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd).

Cyfleusterau chwaraeon ac Undeb y Myfyrwyr

Mae ein staff yn mwynhau mynediad i gyfleusterau chwaraeon rhagorol y Brifysgol, gan gynnwys gostyngiad ar weithgareddau ac aelodaeth.

Rhagor o wybodaeth am gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol

Mae croeso i bob aelod o staff ddefnyddio'r cyfleusterau yn Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys bar y Tafarn, siop goffi CF10, siop yr Undeb, Ystafell Gemau’r Undeb a’r siopau sydd wedi'u lleoli yn yr adeilad.

Gwasanaethau llyfrgell

Gall staff ymweld ag unrhyw un o llyfrgell y Brifysgol a benthyca oddi wrthynt. Mae hyn yn cynnwys mynediad at y Casgliadau Arbennig ac Archifau, sef casgliad hanesyddol sy'n cynnwys llyfrau prin, papurau newydd, mapiau a microffilmiau a mwy.

Gwasanaethau TG

Mae TG y Brifysgol yn cynnig cefnogaeth TG 24/7 dros y ffôn ar +44 (0)29 2251 1111. Hefyd, gallwch gysylltu â Desg y Gwasanaeth TG rwy ebost yn ystod oriau swyddfa.

Mae ein rhwydwaith yn cynnig mynediad 24/7 at feddalwedd ac adnoddau o unrhyw gyfrifiadur ar y campws sydd wedi’i gysylltu â’r rhwydwaith.

Mae Microsoft 365 apps ar gael yn rhad ac am ddim ar ddyfeisiau personol a gallwch wneud yn siŵr eich bod yn cadw’n ddiogel ar-lein gyda meddalwedd gwrthfirysau rhad ac am ddim, naill ai ar Mac a/neu PC personol.

Gall staff y Brifysgol gadw lle ar gyrsiau hyfforddiant TG a defnyddio ein hystafelloedd cyfrifiaduron ar draws y campws

Rhwydweithiau ac undebau staff

Gan eich bod yn aelod o’r staff, gallwch ymuno ag unrhyw un o’n rhwydweithiau, clybiau, undebau a chymdeithasau proffesiynol.  Mae meysydd ein rhwydweithiau cydraddoldeb staff yn cynnwys anabledd, y Gymraeg, Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol, Enfys (LGBT+) a gofalwyr a theuluoedd sy'n gweithio.

Caffis/Bwytai

Rydym yn cynnig amrywiaeth o siopau coffi, bwytai, caffis a bariau ar draws y campws lle gallwch ymlacio gyda chwpanaid o de neu sgwrsio gyda chydweithwyr mewn lleoliad cyfeillgar a chroesawgar.

Cyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Pobl Caerdydd