Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu creadigol

Meithrin archwilio ac arloesedd creadigol.

Credwn fod gan ysgrifennu dychmygus ran hanfodol wrth drafod y gorffennol, lleoli ein hunain yn y presennol, a darogan sawl math o ddyfodol.

Mae ein staff ysgrifennu creadigol yn defnyddio amrywiaeth o genres yn ogystal â dulliau a ffurfiau sefydledig. Maent hefyd yn annog myfyrwyr i ystyried gwaith ysgrifenedig a'i gyd-destunau ehangach yn feirniadol. Maent yn awduron sydd wedi cyhoeddi eu ffuglen a’u barddoniaeth eu hunain, ac maent yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o awduron ac athrawon ysgrifennu creadigol.

Mae'r amgylchedd deallusol a chymdeithasol sydd yma yn gefnogol ac yn llym fel ei gilydd, ac yn dangos pa mor ddeinamig ac ysgogol y gall ysgrifennu creadigol fod yn yr academi.

Digwyddiadau ymchwil

Rydym yn cynnal rhaglen o weithdai a darlleniadau gan awduron blaenllaw, ac yn cynnal seminarau ymchwil rheolaidd gyda chyflwyniadau gan staff, ôl-raddedigion, siaradwyr gwadd ac ymwelwyr.