Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant

Mae ein Sefydliad yn darparu cyfleoedd i ddod ynghyd ag ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol a phartneriaid allweddol i ddysgu, hyfforddi a chydweithio.

Os oes gennych chi neu eich sefydliad anghenion penodol, gallwn weithio gyda chi i ddatblygu datrysiadau datblygiad proffesiynol parhaus pwrpasol. Cysylltwch â ni i drafod eich syniadau.

Dysgu ar-lein

Yn ystod y 30 mlynedd nesaf, amcangyfrifir y bydd 80% o boblogaeth y byd yn byw mewn ardaloedd lle mae lefelau uchel o brinder dŵr. Mae ein MOOC (Massive Open Online Course) sydd wedi ei ddatblygu gyda thîm rhyngddisgyblaethol o'n hymchwilwyr cysylltiedigyn yn cyflwyno’r dysgwyr i heriau diogelwch dŵr ac yn esbonio pam mae gweithgaredd dynol a materion amgylcheddol yn rhoi pwysau cynyddol ar ein hadnoddau dŵr.

RiverAutumn

Heriau Diogelwch Dŵr - Cwrs Ar-lein Agored Enfawr

Gallwch gael cyflwyniad i heriau diogelwch dŵr ar raddfa leol a byd eang gyda’n cwrs ar-lein

Cyfleoedd doethurol

Mae sefydliadau cysylltiedig y Sefydliad Ymchwil Dŵr yn arwain, hyfforddi a goruchwylio fel aelodau allweddol o nifer o raglenni hyfforddiant doethurol a ariennir gan UKRI. Archwiliwch y canolfannau sy'n recriwtio carfannau PhD newydd isod.

Myfyrwyr PhD dŵr

Canolfan Hyfforddiant Doethurol Red Alert

Hyfforddi cenhedlaeth newydd o arweinwyr i drawsnewid sut rydym yn rheoli iechyd amgylcheddol dyfrol trwy Systemau Digidol Amser Real Seiliedig ar Ddŵr.

ECORISC Logo

Canolfan Hyfforddiant Doethurol ECORISC

Canolfan Hyfforddiant Doethurol a ariennir gan UKRI NERC sy'n archwilio risgiau cemegion ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol.

Plasticbottles

Hybiau Hyfforddiant Doethurol Rhyngddisgyblaethol Plastigau Cynaliadwy

Canolfan a ariennir gan EPSRC sy'n darparu amgylchedd hyfforddi rhyngddisgyblaethol ar gyfer myfyrwyr PhD gwyddorau corfforol sy'n gweithio ar ddatblygu plastigau cynaliadwy.

NERCDTP

NERC GW4+ Doctoral Training Partnership

The NERC GW4+ Doctoral Training Partnership is a collaborative partnership offering research training in environmental sciences.

FRESHcohort1

GW4 FRESH Canolfan Hyfforddiant Doethurol

Canolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Biowyddorau Dŵr Croyw a Chynaliadwyedd a ariennir gan UKRI NERC.

Hefyd mae llawer o gyfleoedd PhD ar gael yn ein hysgolion cyswllt. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan Find a PhD.

Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir

Ehangwch eich opsiynau gyrfa trwy astudiaeth ôl-raddedig gan gynnwys modiwlau arloesol a gyflwynir gan ein hymchwilwyr blaenllaw.

WaterChangingWorld

Dŵr mewn Byd sy’n Newid (Msc)

Mae’r cwrs proffesiynol hwn i raddedigion o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau'n cynnig trosolwg eang broblemau dŵr byd-eang a hyfforddiant mewn sgiliau allweddol ar newid yn yr hinsawdd a'r cylch dŵr, sy'n gynyddol angenrheidiol ar gyfer bod yn arweinydd dŵr.

Ecoleg Bydeang a Chadwraeth (MSc)

Nod ein MSc mewn Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang yw hyfforddi ecolegwyr a chadwraethwyr y dyfodol.

Peirianneg Sifil a Dŵr (MSc)

Nod y cwrs hwn yw ategu gradd israddedig perthnasol drwy gyflwyno’r myfyrwyr i hydrowybodeg, hydroleg gyfrifiannol a hydroleg amgylcheddol, gan gynnwys dangosyddion ansawdd dŵr a phrosesau cludo gwaddod yn nyfroedd arfordiroedd ac aberoedd a dyfroedd mewndirol.

Cynigir modiwlau eraill sydd â chydrannau gwyddor dŵr ar draws y Brifysgol: