Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaethau

Mae gennym ni berthynasau hirsefydlog gyda phartneriaid o'r meysydd diwydiant, academia, y llywodraeth a rheoleiddio, a’r trydydd sector.

Gyda chefnogaeth ein tîm ymroddedig, rydym ni’n gweithio gyda rhanddeiliaid mewn amrywiaeth o ffyrdd. Er enghraifft;

  • Rydym ni’n cydweithio’n agos â phartneriaid i gyd-ddylunio a chyd-gyflwyno ymchwil sy’n cael effaith, gyda manteision byd go iawn.
  • Rydym ni’n hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr dŵr proffesiynol trwy gyd-oruchwylio dros 120 o fyfyrwyr PhD sy’n gwneud ymchwil berthnasol i fusnes.
  • Rydym ni’n rhannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd gyda’n partneriaid, gan ddarparu mewnbwn gwerthfawr ar faterion cysylltiedig â dŵr, er enghraifft trwy ymgysylltu ag ymgyngoriadau a chyfrannu at fyrddau ymgynghori.
  • Rydym ni’n trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau rheolaidd gyda’n partneriaid.
  • Rydym ni bob amser yn agored i groesawu grwpiau allanol sy’n gweithio ym maes dŵr croyw i’n cyfleusterau.

Diwydiant

Rydym ni’n gosod gwerth mawr ar ein rhanddeiliaid diwydiannol niferus sy’n caniatáu i’n hacademyddion gymhwyso’u sgiliau i faterion ymarferol pwysig a gwireddu canlyniadau cadarnhaol amlwg o’u gwaith ymchwil.

Dŵr Cymru Welsh Water

Our long-standing history of collaboration with Dŵr Cymru Welsh Water helped to launch a strategic partnership to generate new opportunities for staff and students.

Academia

Rydym ni’n falch o fod yn rhan o Gynghrair Diogelwch Dŵr GW4 – corff o fwy na 200 o ymchwilwyr dŵr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgolion Caerfaddon, Bryste a Chaerwysg.

Y tu hwnt i gysylltiadau rhyngwladol helaeth ein hacademyddion, mae’r Sefydliad wedi adeiladu rhwydwaith o bartneriaid rhyngwladol o ystod eang o wledydd. Mae’r rhwydwaith hwn yn caniatáu i ni gydweithio’n effeithiol ar ymchwil dŵr a chyfrannu ati o dan amodau ac mewn hinsawdd sy’n gwbl wahanol i’r hyn a geir yn y Deyrnas Unedig.

Mae ein partneriaid yn caniatáu mynediad i ni i adnoddau ar lawr gwlad ac yn rhoi cipolwg i ni ar brosiectau ymchwil tramor, yn ogystal â chyfleoedd i rannu arbenigedd ac arfer gorau.

Llywodraeth a rheoleiddwyr

Rydym yn cydnabod rôl hanfodol llywodraeth a rheoleiddio ym myd dŵr croyw ac yn cynnal perthnasau da gyda phob sefydliad perthnasol yn y DU. Mae gennym cysylltiadau cryf â Llywodraeth Cymru yn enwedig, yn ogystal â phartneriaid rheoleiddio.

Mae DURESS wedi helpu i lywio ein diwygiadau deddfwriaethol a sefydliadol a [...] phenderfyniadau ynghylch adfer a chreu cynefin ecosystemau yn y dyfodol yma yng Nghymru.

Dr Matthew Quinn, Cyn-gyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn Llywodraeth Cymru.

Y trydydd sector

Mae'r trydydd sector yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o roi sylw i heriau dŵr croyw ac rydym yn eu hystyried fel grŵp pwysig o bartneriaid. Mae ein partneriaid trydydd sector yn cyfrannu dealltwriaeth ddofn o anghenion cymunedau ac ecosystemau a’r gallu i gyflawni canlyniadau na fyddent o reidrwydd yn bosibl trwy’r sectorau cyhoeddus neu breifat.

Ar hyn o bryd mae gennym brosiectau PhD sy’n cael eu cyd-oruchwylio ac rydym ni’n gwneud gwaith ymchwil gydag amrywiaeth o’n partneriaid trydydd sector, gan gynnwys: