Ewch i’r prif gynnwys

Pam mynd i'r brifysgol?

Bob blwyddyn, mae cannoedd o filoedd o ddarpar fyfyrwyr yn dewis addysg uwch fel y cam nesaf ar ôl yr ysgol neu’r coleg.

Nid oes angen i chi fynd i’r brifysgol a gallwch fagu gyrfa heb radd ond gall y brifysgol gynnig cymaint mwy na gyrfa yn y pendraw.

Dyma pam dylai eich plentyn ystyried gwneud gradd.

O ran eu gyrfa

Gwella rhagolygon gyrfa

Mewn marchnad swyddi mor gystadleuol, gall ennill gradd gynyddu rhagolygon gyrfa eich plentyn yn sylweddol.Roedd 95% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, i fod i ddechrau swydd neu gwrs newydd, neu wneud gweithgareddau eraill fel teithio (ffynhonnell: Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2021/22).

Dilyn galwedigaeth

Yn aml, mae myfyrwyr yn dewis astudio ar lefel addysg uwch er mwyn dilyn diddordeb mewn pwnc penodol, neu mewn galwedigaeth benodol. Mewn rhai gyrfaoedd, fel meddygaeth, nyrsio, pensaernïaeth, y gyfraith a fferylliaeth, mae’n amhosibl ymarfer heb radd alwedigaethol benodol.

Cefais ddau gyfarfod gyda fy nghynghorydd gyrfaoedd: cyfarfod paratoi ar gyfer cyfweliad ac yna ffug gyfweliad. Roedd hi'n hyfryd a rhoddodd gyngor gwych i mi ar sut i ateb cwestiynau cyfweliad yn llwyddiannus yn ogystal â’r hyn y dylwn i ei ddisgwyl. Gyda’i chefnogaeth, llwyddais i gael swydd lefel gradd! 
Shriya, MChem Cemeg gyda Blwyddyn ym myd Diwydiant

Meithrin sgiliau cyflogadwy

Bydd gradd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr fagu dealltwriaeth fanwl o’u pwnc dewisol, yn ogystal â datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a datrys problemau. Bydd y rhain yn gwella eu gallu i weithio’n rhan o dîm.

Myfyrwyr yn canolbwyntio â microsgop wrth astudio mewn labordy.
Myfyrwyr yn canolbwyntio â microsgop wrth astudio mewn labordy.

O ran eu hunanddatblygiad

Magu hunanhyder, annibyniaeth a chyfrifoldeb

Gall y brifysgol helpu myfyrwyr i fagu eu hunanhyder a’u hannibyniaeth. Caiff myfyrwyr lawer o gyfleoedd i wneud ffrindiau o wahanol wledydd a chefndiroedd. Gall byw’n annibynnol feithrin ymdeimlad cryfach o gyfrifoldeb.

Astudio pwnc y maent yn ei fwynhau

Yn aml, mae myfyrwyr yn dewis astudio pwnc am eu bod wedi’i fwynhau yn yr ysgol neu’r coleg. Mae’r brifysgol yn cynnig cyfle iddynt gael dealltwriaeth well o bwnc y maent yn ei fwynhau, gan greu’r sail berffaith ar gyfer gyrfa sydd o ddiddordeb iddynt.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig byd o ddewis i fyfyrwyr uchelgeisiol. Boed hynny trwy raglenni haf ym mhedwar ban byd, rhaglenni cyfnewid semester o hyd, neu leoliadau gwaith a fydd yn cyfoethogi’ch bywyd, mae’r cyfleoedd yn ddiderfyn.

Lydia, myfyriwr Newyddiaduraeth, 2024

Mwynhau cyfleoedd cyffrous

Mewn llawer o achosion, mae mynd i’r brifysgol yn cynnig y cyfle i astudio mewn sefydliadau addysg uwch o fri ledled y byd. Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gennym bartneriaethau gyda 300 o sefydliadau, sy’n rhoi’r cyfle i chi fynd ar leoliadau yn Ewrop a’r byd cyfan, gan ddibynnu ar eich rhaglen astudio.

Myfyriwr yn snorcelu gyda’r machlud ar ein rhaglen Cyfleoedd Byd-eang.
Myfyriwr yn snorcelu gyda’r machlud ar ein rhaglen Cyfleoedd Byd-eang.

O ran eu dyfodol

Ennill profiad drwy weithgareddau allgyrsiol

Mae digon o gyfleoedd allgyrsiol ar gael yn y brifysgol, sy’n rhoi cyfle i unigolyn fwynhau yn ogystal â rhoi hwb i’w cyflogadwyedd drwy gydol eu cyfnod mewn addysg uwch. Mae dros 200 o wahanol glybiau chwaraeon a chymdeithasau ar gael i fyfyrwyr, ac ar ben hynny, ceir cyfle i fyfyrwyr ddysgu iaith newydd drwy ein rhaglen ‘Ieithoedd i Bawb’.

Meithrin cysylltiadau fydd yn para am weddill eu hoes

Mae’r brifysgol yn cynnig y cyfle i feithrin cysylltiadau am weddill eu hoes â chyd-fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd a diwylliannau, ynghyd â’r dinas newydd y bydd myfyrwyr yn ei galw’n gartref drwy gydol cyfnod eu harhosiad.

Er bod cwrdd â phobl yn gallu peri pryder a straen, bydd cymaint o gyfleoedd i chi wneud ffrindiau newydd unwaith i chi gyrraedd, a dim ond cymryd y cam cyntaf fydd yn rhaid i chi ei wneud.

Jasmine BScEcon Cysylltiadau Rhyngwladol, 2024

Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.