Gwasanaethau TG

Meddalwedd a gwasanaethau TG am ddim i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich amser gyda ni
Meddalwedd am ddim
Lawrlwythwch Windows 10 a chewch ddefnyddio Microsoft Office 365 ar hyd at bum dyfais Windows a/neu Mac, a hyd at bum dyfais symudol (iOS neu Android) yn rhad ac am ddim.
Cadw’n ddiogel ar-lein
Lawrlwythwch feddalwedd wrthfirysau rad ac am ddim ar eich Macs a/neu’ch cyfrifiaduron personol.
Cefnogaeth, offer ac adnoddau TG
Mae eduroam, rhwydwaith diwifr y brifysgol, ar gael i’w ddefnyddio’n rhad ac am ddim ar gampysau Cathays a Pharc y Mynydd Bychan, yn ogystal â’r preswylfeydd sy’n eiddo i’r brifysgol.
Gallwch hefyd gael mynediad at y canlynol:
- ystafelloedd TG (gan gynnwys rhai sydd ar agor 24/7) ar y ddau gampws
- Cymorth TG 24/7 gan Ddesg y Gwasanaethau TG dros y ffôn
- y Clinig TG yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr
- Cymorth TG gan Repair IT yn Undeb y Myfyrwyr
- Gwasanaeth sgwrsio Desg y Gwasanaeth TG ar fewnrwyd y myfyrwyr
Gwasanaeth recordio darlithoedd
Mae Learn Plus yn galluogi myfyrwyr i recordio darlithoedd a gweithgareddau dysgu eraill. Mae’r recordiadau’n cael eu rhannu ar-lein drwy Dysgu Canolog ar ôl hynny, a gellir eu gweld ar-lein neu drwy ap ffôn symudol. Gall adolygu’r recordiadau fod yn arbennig o ddefnyddiol tuag adeg arholiadau ac asesiadau.
Darganfyddwch ragor am ddefnyddio apiau, gwasanaethau a meddalwedd TG ar y fewnrwyd. Bydd y rhain ar gael i chi pan fyddwch wedi cael eich manylion mewngofnodi yn y brifysgol.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â Desg y Gwasanaeth TG i gael cymorth a chyngor ar ddefnyddio ein gwasanaethau TG: