Ewch i’r prif gynnwys

Ffioedd dysgu ôl-raddedig ar gyfer dechrau astudio 2024

Mae ffioedd ôl-raddedig yn amrywio yn dibynnu ar gwrs, modd a lefel astudio.

Ffioedd cyrsiau a addysgir

Gwybodaeth am ffioedd ar gyfer cyrsiau llawn amser, rhan amser a pharhaus yn 2023, a'n modiwlau annibynnol.

Mae ffioedd ar gyfer ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.

Talu ffioedd dysgu

Gallwch dalu eich ffioedd dysgu mewn un o'r ffyrdd canlynol:

  • taliad llawn cyn cofrestru neu wrth gofrestru
  • os nad yw debyd uniongyrchol yn opsiwn, dylid talu traean o'r ffi cyn cofrestru neu wrth gofrestru, yna talu traean ar Ionawr 29 ac Ebrill 29.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thalu ffioedd, gweler ein tudalennau myfyrwyr newydd.

Statws ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol

Pennir y statws ffioedd dysgu wrth brosesu ceisiadau, felly ni allwn gadarnhau hyn ymlaen llaw na rhannu gwybodaeth am benderfyniadau ar statws ffioedd.

Os nad ydych yn sicr o'ch statws ffioedd, edrychwch ar ein hegwyddorion arweiniol o asesu ffioedd.