Ewch i’r prif gynnwys

Ffioedd Ôl-raddedig a Addysgir

Gwybodaeth am ffioedd ar gyfer ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir, ynghyd â manylion ar dalu blaendal.

Ffioedd

Cyrsiau ôl-raddedig llawn amser

Ar gyfer ffioedd cyrsiau ôl-raddedig a addysgir, gweler y gofynion mynediad unigol ar gyfer y cwrs, oni bai eich bod yn fyfyriwr parhaus neu'n astudio modiwl annibynnol.

Myfyrwyr rhan-amser

Oni nodir yn wahanol, mae'r ffioedd rhan-amser yn cynrychioli'r gost ar gyfer un flwyddyn astudio. Bydd ffioedd yn daladwy ar gyfer pob blwyddyn astudio ddilynol. Felly, i gael amcangyfrif bras o gyfanswm y gost, dylech luosi’r ffioedd â nifer y blynyddoedd o astudio.

Modiwlau unigol

Gwybodaeth am ffioedd ar gyfer modiwlau annibynnol a restrir fesul ysgol academaidd.

Blaendaliadau

I gael rhagor o fanylion am flaendaliadau, ewch i'n tudalen blaendaliadau ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich ffioedd dysgu, cysylltwch â ni:

Ymholiadau ffioedd dysgu