Ewch i’r prif gynnwys

Amy McGregor

Mae’r myfyriwr MA Astudiaethau Cyfieithu yn siarad am ei darlithwyr cefnogol a chalonogol a sut mae Caerdydd yn "ddinas fywiog, gyfeillgar, gyda bywyd gwych i fyfyrwyr."

Mae fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dod i ben yn llawer rhy gyflym. Hoffem ail-fyw'r profiad.

Amy McGregor, MA Astudiaethau Cyfieithu

"Ar ôl cwblhau fy ngradd israddedig mewn Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd, roeddwn i’n gwybod fy mod i am barhau i astudio yno.”

Mae Caerdydd yn ddinas fywiog, gyfeillgar, gyda bywyd gwych i fyfyrwyr ac o fewn pellter rhwydd i deithio i fannau diddorol eraill fel Llundain, Caerfaddon a Phenrhyn Gŵyr.”

"Roeddwn i’n hapus iawn yn yr adran ac yn teimlo bod y darlithwyr i gyd yn gefnogol ac yn fy annog. Roedd ganddyn nhw ddigon o amser y tu allan i’r dosbarth i gynnig adborth a syniadau defnyddiol i fi.”

“Mae gan y Brifysgol lawer i’w gynnig i fyfyrwyr ôl-raddedig. Mae Canolfan y Graddedigion ar agor tan yn hwyr ac yn lle ardderchog i astudio a chyfarfod â phobl newydd o bedwar ban byd. Mae digon o deithiau a gweithgareddau i fyfyrwyr ôl-raddedig hefyd, felly mae rhywbeth yn digwydd drwy’r amser!”