Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol

Wedi eich lleoli yn Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, byddwch yn ymuno â chymuned ymchwil ac academaidd fywiog, sy’n falch o’n enw da am hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn ymchwilio ar gyfer MPhil/PhD mewn ystod lawn o feysydd, gyda’r canlynol yn gryfder arbennig:

  • Bwdhaeth a’i lenyddiaeth yn India a’r Gorllewin
  • Diwinyddiaeth Cristnogol Gyfoes
  • Islam Cyfoes yn y Gorllewin
  • Llenyddiaeth, Hanes a Diwylliant Cristnogol Cynnar
  • Thraddodiadau Hindŵaidd: Hynafol, Canoloesol a Modern
  • Hanes Esbonio Beiblaidd
  • Hanes Bwdhaeth
  • Islam yn y DU
  • Dull a Theori wrth Astudio Crefydd
  • Traddodiadau Naratif De Asia
  • Diwinyddiaeth Fugeiliol ac Ymarferol
  • Patristeg a Hynafiaeth Hwyr
  • Traddodiadau Sikhiaid y Ddeunawfed Ganrif a'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
  • Cymdeithaseg Crefydd.

Nodau'r rhaglen

I gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn ymchwil (yn y maes academaidd, y cyfryngau, y sector cyhoeddus), addysgu mewn addysg uwch, neu amrywiaeth o broffesiynau cysylltiedig sy’n gwerthfawrogi gradd ôl-radd yn y dyniaethau. Yn benodol, mae natur ryngddisgyblaethol Astudiaethau Crefyddol yn darparu cefndir eang ynghyd â ffocws clir.

Nodweddion unigryw

  • Goruchwylwyr profiadol a rhaglen ymchwil llwyddiannus a buddiol
  • Traddodiad cryf ac egnïol o iaith ac arbenigedd testunol
  • Seminarau ymchwil rheolaidd gyda siaradwyr gwadd
  • Seminarau pwnc-benodol a sgiliau rheolaidd.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser Cyfleoedd ar gael
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Rydym yn darparu amrywiaeth eang o arbenigedd. Mae cryfderau penodol yn cynnwys:

  • Bwdhaeth a’i Lenyddiaeth
  • Hanes Bysantaidd
  • Crefydd a Diwylliant
  • Caplaniaeth
  • Islam Cyfoes yn y Gorllewin
  • Hanes a Diwylliant
  • Traddodiadau Hindŵaidd
  • Islam yn y DU
  • Traddodiadau Naratif De Asia
  • Diwinyddiaeth Fugeiliol ac Ymarferol
  • Patristeg a Hynafiaeth Hwyr
  • Cymdeithaseg Crefydd.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Rydym yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr, sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Mae’n addas ar gyfer graddedigion mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau yn y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Rhaid wrth radd anrhydedd Dosbarth Cyntaf neu yn Adran Uchaf yr Ail Ddosbarth, gradd Athro neu gymhwyster cyfwerth.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Dylid gwneud cyflwyniad ffurfiol yn defnyddio ffurflen gais safonol y Brifysgol. Hefyd, mae gofyn i ymgeiswyr ar gyfer PhD gyflwyno cynnig ymchwil 1,500 - 2,000 gair ynghyd â llyfryddiaeth dangosol a thrafodaeth o’r methodolegau i’w defnyddio. Mae gofyn i ymgeiswyr ar gyfer MPhil gyflwyno fersiwn 1,000 gair o’r uchod.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

School of History, Archaeology and Religion Postgraduate Research Administrative Officer

Administrative contact

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Yr Athro Sophie Gilliat-Ray

Yr Athro Sophie Gilliat-Ray

Professor in Religious and Theological Studies, Head of Islam UK Centre

Email
gilliat-rays@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0121
Dr Abdul-Azim Ahmed

Dr Abdul-Azim Ahmed

Darlithydd mewn Astudiaethau Mwslimaidd Prydeinig, Dirprwy Bennaeth Canolfan Islam y DU

Email
ahmedma1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5634

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig