Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau

1-3 Plas yr Amgueddfa
Adeilad yr Academi Ddoethurol yn 1-3 Plas yr Amgueddfa

Rydym yn cynnig lle croesawgar i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gysylltu, gweithio, dysgu a chymryd egwyl i ffwrdd o'r amgylchedd ymchwil.

1-3 Maes yr Amgueddfa yw ein cartref, gan olygu ein bod yng nghanol campws Cathays, ac mae gorsaf Cathays, y Prif Adeilad a Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr gerllaw.  Rydym ar agor rhwng 08:00 a 20:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae'r adeilad at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn unig. Mae cyfleusterau pwrpasol yno ar gyfer ein cymuned, gan gynnwys:

  • ystafell hyfforddi/cyfarfod fawr gyda chyfleusterau addysgu llawn*
  • 12 lle desg 'galw heibio a phlygio i mewn' i'w defnyddio gyda dyfeisiau personol
  • cyfleusterau cegin*
  • man cymunedol ar gyfer cyfarfodydd hamddenol neu anffurfiol
  • ystafell dawel
  • leoedd y gellir eu cadw ar cyfarfodydd a gwaith hybrid*
  • mwy na 20 o ddesgiau ar gyfer ymchwilwyr lle mae cyfrifiaduron neu ddociau a sgriniau*

*Sylwch fod y lleoedd hyn ar gael ar lawr gwaelod yr adeilad ac yn gwbl hygyrch.