Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu a datblygu

A chithau’n fyfyriwr ymchwil, eich nod fydd cynhyrchu traethawd ymchwil o safon uchel sy'n cyflwyno deilliannau eich prosiect yn ogystal â datblygu fel ymchwilydd annibynnol a phroffesiynol ar yr un pryd.

Gyda chyngor oddi wrth eich goruchwylwyr, byddwch yn creu cynllun ar gyfer eich hyfforddiant â'r nod o ddysgu’r sgiliau ymchwil sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â'ch prosiect a chefnogi eich datblygiad personol a phroffesiynol.

Mae ein rhaglen yn cynnig pecyn cynhwysfawr o ddigwyddiadau dysgu rhyngddisgyblaethol a chyfleoedd datblygu sydd ar gael i bob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig ac am ddim. Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio i ategu’r hyfforddiant disgyblaeth-benodol y byddwch yn ei gael ar lefel ysgol, ac yn cyflwyno cyfleoedd eithriadol i chi ddatblygu eich sgiliau ymchwil, personol a phroffesiynol.

Cynllun ymchwil

Yn y cyfarfod goruchwylio ffurfiol cyntaf, byddwch yn gwneud Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi’n rhan o’ch Cynllun Ymchwil. Bydd hwn yn cael ei adolygu a’i drafod yn rhan o’r weithdrefn Monitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.

Wrth i chi gynllunio’r prosiect ymchwil ei hun, byddwch yn llunio cynllun i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol.

Rhinweddau Graddedigion

Mae ein rhaglen wedi'i mapio yn erbyn Rhinweddau Graddedigion y Brifysgol. Set o chwe chategori o sgiliau yw’r rhain, y bydd byd diwydiant yn eu gwerthfawrogi a’u chwennych.

  • Cydweithredol
  • Cyfathrebu'n effeithiol
  • Ymwybyddiaeth foesegol, gymdeithasol ac amgylcheddol
  • Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol
  • Arloesi, mentro ac ymwybyddiaeth fasnachol
  • Myfyriol a gwydn

Mae pob un o’r rhinweddau hyn yn cynnwys amryw o sgiliau y bydd cyflogwyr yn gofyn amdanyn nhw yn gyson pan fyddan nhw'n chwilio am weithwyr. Lluniwyd y nodweddion hyn i wella'ch profiad dysgu er mwyn ichi allu datblygu, adnabod, dangos a chyfleu'r sgiliau hyn.

Y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr

Mae ein rhaglen hefyd yn cyd-fynd â phedwar maes y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr. Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi adlewyrchu’r rhain yn eich cynllun hyfforddi:

  • gwybodaeth a galluoedd deallusol;
  • effeithiolrwydd personol;
  • ymchwil, llywodraethu a threfnu;
  • ymgysylltu, dylanwad ac effaith.

Mae’r Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr, sy’n cael ei gefnogi gan UKRI ynghyd â sefydliadau a chyrff addysg uwch eraill, yn amlinellu gwybodaeth, sgiliau, ymddygiad a nodweddion personol ymchwilwyr proffesiynol effeithiol.

Mae rhagor o wybodaeth am y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr i’w gweld ar wefan Vitae.

Adnoddau ar-lein ychwanegol

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau ‘ar alw’ sy’n caniatáu hyblygrwydd a hwylustod ar gyfer dysgu hunangyfeiriedig: