Ewch i’r prif gynnwys

Ein cymuned

Mae'r Academi Ddoethurol yn cynnig canolbwynt ar gyfer rhwydweithio, dysgu a chydweithio ag myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig eraill ar draws y brifysgol, fel rhan o gymuned ymchwil amrywiol ac amlddisgyblaethol.

Gall y byd academaidd fod yn arw ac yn ynysig, ond mae'r Academi Ddoethurol yn lloches lle gall myfyrwyr PhD o wahanol gefndiroedd ddod at ei gilydd.

Adelle, Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Cymryd rhan

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i chi gymryd rhan yn eich cymuned ymchwil ehangach.

Digwyddiadau rhyngddisgyblaethol

Mae ein rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau rhyngddisgyblaethol yn eich galluogi i adeiladu eich rhwydweithiau ymchwil, gwerthfawrogi dulliau amgen a dod o hyd i ddulliau cyffredin gydag ymchwilwyr y tu allan i'ch maes ymchwil uniongyrchol.

GW4

Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o gynghrair ranbarthol gyda Phrifysgol Caerfaddon, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Caerwysg sydd â'r nod o rannu arbenigedd ymchwil, adnoddau a chyfleoedd datblygu. Mae hyn yn eich galluogi i weithio a dysgu gydag ymchwilwyr ôl-raddedig ar draws rhanbarth de-orllewin Lloegr.