Ewch i’r prif gynnwys

Caffi'r Ôl-raddedigion

Dewch i wybod rhagor am astudiaethau ôl-raddedig yn un o’n caffis hamddenol ac anffurfiol i Ôl-raddedigion.

Bydd dyddiad digwyddiad Caffi'r Ôl-raddedigion nesaf yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Beth i’w ddisgwyl

Rydyn ni’n croesawu unrhyw un sy’n ystyried dilyn cwrs ôl-raddedig, ni waeth ble rydych chi arni o ran y broses benderfynu. Gallwch chi:

  • sgwrsio â rhai o'n myfyrwyr presennol, yn rhai ymchwil a rhai a addysgir, am fywyd yng Nghaerdydd
  • gwybod rhagor am yr opsiynau cyllido sydd ar gael ichi
  • mynd ar daith o amgylch ein campws ym Mharc Cathays
  • trafod eich cwestiynau am astudio gyda ni mewn cyd-destun cymdeithasol ac anffurfiol
  • mwynhau diod boeth am ddim, ni sy’n talu!

Sylwer na fydd staff yr ysgolion academaidd ar gael yn y Caffis i Ôl-raddedigion. Os oes gennych chi gwestiynau am raglen ôl-raddedig benodol, rydyn ni’n eich cynghori i fynd i un o’n Diwrnodau Agored i Ôl-raddedigion.

Sut brofiad yw astudio gyda ni

Dewch i wybod sut brofiad yw bod yn fyfyriwr ôl-raddedig sy’n astudio ac yn ymchwilio yng nghalon Caerdydd, prifddinas Cymru.

Myfyrwyr yn sgwrsio ar glanio adeilad prifysgol

Pam astudio gyda ni?

Pam dylech chi ddewis Prifysgol Caerdydd?

Archwilio’r pynciau

Dewch i wybod rhagor am yr ystod o bynciau rydyn ni’n eu cynnig.

Byw yng Nghaerdydd

Darganfyddwch beth sy'n gwneud dinas Caerdydd mor apelgar.

Cysylltu

Os oes gennych chi gwestiynau am ein digwyddiadau, cysylltwch â'n timau ôl-raddedig.