Noson Agored i Ôl-raddedigion
Ymunwch â’n Noson Agored i Ôl-raddedigion i gael gwybod rhagor am addysg ôl-raddedig ym meysydd y biowyddorau, deintyddiaeth, gofal iechyd, meddygaeth, fferylliaeth, seicoleg.
Digwyddiad sydd ar ddod
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Mai
Amser: 16:00 – 19:00
Lleoliad: Adeilad Cochrane, Ysbyty Athrofaol Cymru, Campws Parc y Mynydd Bychan
I gael rhagor o wybodaeth am astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, cofrestrwch ar gyfer ein gweminarau sydd ar y gweill.
Beth i’w ddisgwyl
- Dewch i wybod rhagor am ystod y cyrsiau a’r profiadau sydd ar gael
- Cwrdd â’r staff academaidd
- Mynd ar daith o gwmpas y cyfleusterau
- Sgwrsio â’r myfyrwyr presennol
- Rhagor o wybodaeth am gyllid myfyrwyr, cyllido eich hun ac ysgoloriaethau
Pam astudio gyda ni?
Dysgwch sut beth yw bod yn fyfyriwr ôl-raddedig yn astudio ac yn ymchwilio ym mhrifddinas Cymru.
Cysylltu
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am sut i gyrraedd Prifysgol Caerdydd a theithio o gwmpas y campws.