Ffeiriau a chonfensiynau
Rydym yn ymweld ag ysgolion a cholegau ar draws y wlad, yn ogystal â ffeiriau ac arddangosfeydd addysg uwch.
Yn anffodus, mae'r holl ffeiriau a chynadleddau ar gyfer myfyrwyr israddedig y gwnaethom gymryd rhan ynddynt eleni wedi dod i ben. Byddwn yn cymryd rhan mewn mwy o gynadleddau yn 2024, felly dewch yn ôl i'r dudalen hon i ddarganfod pryd y bydd y rhain yn digwydd.
Digwyddiadau ôl-raddedig
Cewch sgwrsio ag aelod o’r tîm recriwtio ôl-raddedig yn un o’r ffeiriau canlynol:
Dyddiad | Digwyddiad | Lleoliad |
---|---|---|
Dydd Mercher 11 Hydref 2023 | PhD yn FYW Swydd Efrog | Neuadd Cutler, 7-12 Stryd yr Eglwys Sheffield S1 1HG |
Dydd Mercher 18 Hydref 2023 | Ôl-raddedigion yn FYW Llundain | Prifysgol y Met Llundain, Y Neuadd Fawr, Llundain, N7 8DB |
Dydd Llun 6 Tachwedd 2023 | Sioe Deithiol Grŵp Russell yn Newcastle | Adeilad Hadrian, Prifysgol Newcastle, Newcastle, NE1 7RU |
Dydd Mawrth 7 Tachwedd 2023 | Sioe Deithiol Grŵp Russell yn Leeds | Adeilad Parkinson, Prifysgol Leeds, Leeds, LS2 9JT |
Dydd Mercher 8 Tachwedd 2023 | Sioe Deithiol Grŵp Russell yn Nottingham | Adeilad Trent, Prifysgol Nottingham, Nottingham, NG7 2RD |
Dydd Iau 9 Tachwedd 2023 | Sioe Deithiol Grŵp Russell yn Birmingham | Adeilad Aston Webb, Prifysgol Birmingham, Birmingham, B15 2TT |
Dydd Gwener 10 Tachwedd 2023 | Sioe Deithiol Grŵp Russell yng Nghaerwysg | The Forum, Prifysgol Caerwysg, Caerwysg, EX4 4SZ |
Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024 | Ôl-raddedigion yn FYW Lerpwl | I’w gadarnhau |
Dydd Mercher 7 Chwefror 2024 | Ôl-raddedigion yn FYW Manceinion | I’w gadarnhau |
Dydd Mercher 28 Chwefror 2024 | Ôl-raddedigion yn FYW Llundain | I’w gadarnhau |
Y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
Ar gyfer cyfleoedd cyfarfod y tu allan i'r UE, ymgynghorwch â thudalen eich gwlad.
Cysylltu â ni
Os oes gennych ddiddordeb astudio ym Mhrifysgol Caerdydd a bod gennych gwestiwn am ein cyrsiau, cysylltwch â'n timau am help a chyngor.