Ewch i’r prif gynnwys

Doethuriaeth Broffesiynol

Mae'r rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol yn cynnig cyfle i archwilio theorïau diweddar a thystiolaeth ymchwil er mwyn deall effaith gymdeithasol polisïau ac arferion mewn cyd-destun proffesiynol.

Mae'r ddoethuriaeth ymchwil rhan amser yma'n gyfwerth â'r PhD, ond yn canolbwyntio ar agweddau proffesiynol yn benodol.

Mae'r Ddoethuriaeth Broffesiynol yn canolbwyntio ar ymchwil cymhwysol yn hytrach nag ymchwil pur. Mae'r cysylltiadau rhwng gwybodaeth wedi'i seilio ar ymchwil a'i gymhwysiad mewn ystod eang o leoliadau proffesiynol yn ganolog i'r Ddoethuriaeth hon, sy'n cadw anghenion gyrfa arbenigwyr ar lefel uwch mewn golwg.

Rydym yn cynnig cynllun integredig lle caiff arbenigwyr addysg, iechyd, gwaith cymdeithasol a pholisi gyfle i astudio gyda'i gilydd. Mae'r amgylchedd dysgu rhyngbroffesiynol hwn yn eich galluogi i fyfyrio am y pethau caiff eu rhannu ar draws ffiniau proffesiynol yn ogystal â'r gwahaniaethau sy'n benodol i draddodiadau a phrofiadau eich gyrfa chi.

Mae yna bedwar llwybr penodol o fewn y cynllun Doethuriaeth Broffesiynol: