Ewch i’r prif gynnwys

PhD

Mae ein myfyrwyr PhD yn elwa o ddiwylliant ymchwil deinamig a ffocws cryf ar hyfforddiant ymchwil.

Ceir opsiynau astudio gwahanol:

  • PhD 3-4 blynedd amser llawn
  • PhD 5-7 mlynedd yn rhan-amser
  • MPhil 1-2 flynedd amser llawn
  • MPhil 2-3 blynedd yn rhan-amser

Rydym yn cynnig goruchwylio ar gyfer ystod o themâu ymchwil sy’n adlewyrchu prif feysydd arbenigedd yr Ysgol yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol. Rydym yn annog ceisiadau yn y meysydd canlynol:

Yr Ysgoloriaethau

Efallai y bydd cyllid ar gael ar gyfer eich PhD drwy ysgoloriaeth.

Rydym yn hynod o falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (DTP Cymru), a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd (ESRC). Bob blwyddyn rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau a ariennir gan yr ESRC yn y llwybrau ESRC canlynol:

  • troseddeg
  • yr economi digidol a’r gymdeithas
  • addysg
  • Astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg
  • polisi cymdeithasol
  • gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol
  • cymdeithaseg.

Ariennir rhai o’r ysgoloriaethau mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Yn rhan o’r cyfleoedd cyllid DTP, mae modd dilyn rhaglen PhD sy’n cynnwys MSc blwyddyn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol cyn gwneud 3 blynedd o ymchwil PhD.

O bryd i'w gilydd, mae gennym hefyd gyfleoedd ar gyfer ysgoloriaethau eraill sy’n deillio o ystod o ffynonellau cyllid eraill, megis Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mynnwch gip ar yr holl gyllid sydd ar gael ar hyn o bryd ar ein tudalennau cyllid ôl-raddedig.

The facilities are fantastic and we as PhD students are treated like part of the academic community and given a nice space in which to work. The experience has been refreshing because we are given enough freedom to work in the way which suits us best but enough guidance to keep us on track.

Jessica Abrahams PhD Social Sciences