Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Adroddiad arolwg diwylliant ymchwil 2023 crynodeb gweithredol

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cynnal ei harolwg diwylliant ymchwil sefydliadol cyntaf. 

Daeth i ben ym mis Tachwedd 2022. Gyda chyfanswm o 1312 o ymatebion, casglodd yr arolwg farn cydweithwyr sy’n ymwneud ag ymchwil ar draws y sefydliad.

Cyflwyniad

BYn ôl y math o rôl, mae’r ymatebwyr yn cynrychioli

  • 36% o’r holl staff Addysgu ac Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd (475 o ymatebwyr allan o 1323 o staff Addysgu ac Ymchwil)
  • 22% o staff Ymchwil (Ymchwil yn unig) (224 o ymatebwyr/1004 o staff Ymchwil yn unig)
  • 15% o Ymchwilwyr Ôl-raddedig (365 o ymatebwyr/2366 o Ymchwilwyr Ôl-raddedig).

Er nad yw’n hysbys faint o staff Addysgu ac Ysgolheictod a’r Gwasanaethau Proffesiynol yn y brifysgol sy’n ymwneud ag ymchwil, ymatebodd 6% o’r holl staff Addysgu ac Ysgolheictod (65 o ymatebwyr/1101 o staff Addysgu ac Ysgolheictod) a 4% o’r holl gydweithwyr Gwasanaethau Proffesiynol (161 o ymatebwyr/3934 o staff Gwasanaethau Proffesiynol) i’r arolwg.

Mae data Arolwg Diwylliant Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn rhoi ymdeimlad clir bod gennym lawer o arferion, polisïau a nodweddion sy’n cyfrannu at ddiwylliant ymchwil cadarnhaol. Mae’r canlyniadau’n nodedig o gadarnhaol ar draws meysydd cydweithredu a cholegoldeb, uniondeb a moeseg ymchwil, a didwylledd a thegwch ymchwil, ac maent yn cymharu’n ffafriol â chanlyniadau arolwg tebyg o sefydliadau eraill yn gyffredinol. Ar yr un pryd, yn unol â chanlyniadau mewn sefydliadau cymharol, mae canfyddiadau’r arolwg yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen gwneud mwy o waith, yn enwedig o ran diogelwch swyddi a datblygu gyrfa, a chydbwysedd bywyd-gwaith, iechyd meddwl a llesiant.

Mae creu diwylliant ymchwil cadarnhaol yn cyflwyno her genedlaethol a rhyngwladol ar draws sefydliadau addysg uwch (AU). Mae diwylliant ymchwil yn effeithio ar gydbwysedd bywyd-gwaith ymchwilwyr, eu llesiant a’u datblygiad gyrfaol, ac ar ansawdd yr ymchwil.

Ochr yn ochr ag ychydig o sefydliadau AU eraill, mae Caerdydd ymhlith y cyntaf i gymryd rhan mewn arolwg a gynlluniwyd yn benodol i archwilio canfyddiadau cydweithwyr o’u diwylliant ymchwil. Mae hyn yn adlewyrchiad o’n hymrwymiad sefydliadol i gymryd perchnogaeth wirioneddol o’n diwylliant ymchwil a buddsoddi yn ei lwyddiant. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y materion a’r heriau a wynebir gan y gymuned ymchwil yn gynnyrch llawer o ffactorau cymhleth, gan gynnwys polisïau’r cyllidwyr a’r llywodraeth ac amgylchedd ymchwil a sefydlwyd dros ddegawdau lawer o ymarfer sefydliadol.

Bydd prif ganfyddiadau’r adroddiad hwn yn caniatáu i Brifysgol Caerdydd nodi meysydd i’w gwella a sicrhau gwell dealltwriaeth o ble y dylid targedu ei hadnoddau i wella ei diwylliant ymchwil.

Crynodeb o’r canlyniadau

Cydweithio a cholegoldeb

Mae ymatebwyr i raddau helaeth yn myfyrio’n gadarnhaol ar gydweithio a cholegoldeb ym Mhrifysgol Caerdydd.

  • Mae 88% yn cytuno bod cydweithwyr yn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd pan ofynnir iddynt.
  • Mae 64% yn credu bod eu cyfraniadau at ymchwil yn y brifysgol yn cael eu gwerthfawrogi gan gydweithwyr.
  • Dim ond 19% o’r ymatebwyr sy’n cytuno bod y brifysgol yn cydnabod colegoldeb yn ddigonol yn ei phrosesau gwobrwyo a hyrwyddo.
  • Mae rhai ymatebion ansoddol yn dangos pryderon ynghylch heriau cydweithredu ar draws y sefydliad, oherwydd amgylchedd canfyddedig ‘seilo’.

Rhyddid i fod yn chwilfrydig ac yn greadigol

Mae ymatebwyr yn cytuno i raddau helaeth bod chwilfrydedd a rhyddid yn cael eu gwerthfawrogi, ond mae data meintiol a rhai ymatebion ansoddol yn dangos bod cyfyngiadau amser yn rhwystr pwysig.

  • Mae 66% yn cytuno bod creadigrwydd yn cael ei werthfawrogi yn eu hamgylchedd ymchwil.
  • Dim ond 36% o’r ymatebwyr sy’n credu bod ganddynt ddigon o amser i feddwl yn greadigol a datblygu eu syniadau.

Diogelwch swyddi a datblygiad gyrfaol

Dychwelodd ymatebwyr amrywiaeth o safbwyntiau ar ddiogelwch eu swyddi a datblygiad gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd.

  • Mae 51% o’r ymatebwyr yn teimlo’n ddiogel yn eu swydd bresennol. Maeamryw o ymatebion ansoddol yn nodi bod nifer yr achosion o gontractau tymor penodol ar draws y brifysgol yn effeithio’n negyddol ar ddiogelwch swyddi.
  • Er bod 74% o ymatebwyr Addysgu ac Ymchwil ac Addysgu ac Ysgolheictod yn teimlo’n ddiogel yn eu swyddi, mae hyn ond yn wir am 20% o ymatebwyr Ymchwil yn unig.
  • Dim ond 49% o’r ymatebwyr sy’n cytuno eu bod yn gwybod sut i ddatblygu eu gyrfa, a dim ond 31% o’r ymatebwyr sy’n fodlon â’u rhagolygon gyrfa hirdymor ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant

Mae ymatebwyr yn mynegi barn gadarnhaol am gynhwysiant, ond mae data’n awgrymu bod angen mynd i’r afael â diffyg hyder yn y brifysgol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwahaniaethol neu amhriodol.

  • Mae 66% o’r ymatebwyr yn teimlo eu bod yn aelod cynhwysol o’r gymuned ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.
  • Mae 50% o’r ymatebwyr yn mynegi hyder yng ngallu Prifysgol Caerdydd i fynd i’r afael yn effeithiol ag unrhyw ymddygiad gwahaniaethol neu amhriodol yn eu hamgylchedd ymchwil

Uniondeb a moeseg ymchwil

Atebodd ymatebwyr yn gadarnhaol iawn trwy gydol y thema Uniondeb a Moeseg Ymchwil er bod rhai sylwadau ansoddol yn nodi rhai heriau yn y maes hwn.

  • Mae 80% o’r ymatebwyr yn cytuno bod Prifysgol Caerdydd yn cymryd uniondeb ymchwil o ddifrif.
  • Mae 91% yn cytuno eu bod yn gwybod beth yw camymddwyn ymchwil.

Didwylledd a thegwch ymchwil

Dychwelodd ymatebwyr ganlyniadau cadarnhaol ar y cyfan ar draws y thema, er bod rhai yn dangos pryder ynghylch y brifysgol yn blaenoriaethu maint allbwn ymchwil dros ansawdd ymchwil.

  • 7Mae 72% o’r ymatebwyr yn credu bod Prifysgol Caerdydd yn gwerthfawrogi arferion Ymchwil Agored.
  • Mae 27% o’r ymatebwyr yn cytuno bod maint yr allbwn ymchwil yn cael ei flaenoriaethu dros ansawdd ymchwil yn eu hamgylchedd gwaith. Mae rhai ymatebion ansoddol yn dangos bod prosesau recriwtio a hyrwyddo a ffurflenni Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn rhoi mwy o bwys ar nifer y cyhoeddiadau.

Cydbwysedd bywyd-gwaith, iechyd meddwl a llesiant

Er bod llawer yn mwynhau gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, mae llai o ymatebwyr yn mynegi boddhad gyda’u cydbwysedd bywyd-gwaith presennol.

  • Mae 76% o’r ymatebwyr yn nodi eu bod yn mwynhau gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd.
  • Mae 46% o’r ymatebwyr yn mynegi boddhad â’u cydbwysedd bywyd-gwaith.
  • Staff Addysgu ac Ymchwil (30%) a staff Addysgu ac Ysgolheictod (31%) sy’n adrodd y canrannau isaf. Mae staff Ymchwil yn unig (52%), Ymchwilwyr Ôl-raddedig (60%) a chydweithwyr yn y Gwasanaethau Proffesiynol (67%) yn dangos lefelau cymharol uwch o foddhad.
  • Mae llawer o sylwadau ansoddol yn myfyrio ar fanteision gweithio hyblyg a gweithio gartref ers pandemig COVID-19.

Bydd data’r arolwg, sydd hefyd yn cynnwys ystod eang o awgrymiadau ar gyfer gwella diwylliant ymchwil, bellach yn cael ei ddefnyddio i lywio blaenoriaethau ein cynllun gweithredu diwylliant ymchwil.