Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau

Cyfleusterau Lab
Sganiwr Sleid ZEISS AxioScan Z.1

Mae ein labordai ymchwil yn meddu ar y cyfleusterau diweddaraf i fynd i'r afael â chwestiynau allweddol ym meysydd niwrowyddoniaeth sylfaenol a chlinigol.

Mae'r Sefydliad wedi ei leoli yn adeilad newydd Hadyn Ellis ers mis Gorffennaf 2013; mae’n gartref i’r cyfleusterau ymchwil diweddaraf er mwyn cynnal ymchwil gydweithredol o'r radd flaenaf ar gyfer y gymuned niwrowyddoniaeth.

Rydym wedi ennill Gwobr BREEAM am ein gwaith dylunio a’n cynaliadwyedd o’r radd flaenaf. Mae ein holl labordai wedi cael eu hadeiladu'n bwrpasol i sicrhau y gellir diwallu'r holl anghenion ymchwil cyfredol ac yn y dyfodol tra'n parhau i fod o les i'r amgylchedd.

Mae ein cyfleusterau'n darparu amgylchedd ymchwil unigryw traws-drosiadol pwysig sy'n caniatáu cyfleoedd ymchwil yn y Sefydliad yn ogystal â mewn ysgolion cysylltiedig eraill ar draws y Brifysgol.

Cyfleusterau ymchwil ac offer

Mae ein cyfleusterau presennol yn cynnwys:

  1. Cyfleuster bôn-gelloedd craidd
  2. Seilwaith niwrofioleg systemau craidd
  3. Seilwaith delweddu cwrs bywyd a genetig craidd
  4. Seilwaith niwrofioleg moleciwlaidd craidd

Mae ein cyfarpar o'r radd flaenaf yn cynnwys:

  • Sganiwr Sleid Zeiss Axioscan Z1
  • LEICA DM6000B Unionsyth
  • LEICA DM16000B wedi'i Wrthdroi
  • Set delweddu Macro/Micro
  • Flowsight
  • Ystafell Hypoxic