Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau

Mae ein cyfleuster ymchwil yn cynnwys sganiwr ymennydd mwyaf pwerus Ewrop, yn ogystal ag amgylchedd pwrpasol i gleifion a gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan mewn ymchwil feddygol a threialon clinigol.

Labordai delweddu atseiniol magnetig

Mae gennym bedwar labordy MRI gyda chyfuniad o offer sy'n ei wneud yn gyfleuster unigryw yn Ewrop.

Labordai magnetoenceffalograffi

Mae ein labordai magnetoenceffalograffi (MEG) yn darparu amgylchedd gwell ar gyfer astudiaethau clinigol a ffarmacolegol o ddeinameg osgiliadol yr ymennydd.

Labordai electroenceffalograffi

Mae gennym dri labordy electroenceffalograffi (EEG), yn ogystal â chyfleusterau golchi gwallt a mannau paratoi pwrpasol i gyfranogwyr yr astudiaeth.

Labordai ysgogi'r ymennydd

Rydym yn cynnal pedwar labordy ymroddedig i dechnoleg ysgogi ymennydd diweddaraf.

Labordai profion gwybyddol

Mae ein deg labordy ar gyfer profion gwybyddol yn cynnwys gofod hyblyg ar gyfer tafluniad sgrin fawr, olrhain symudiad neu realiti rhithwir, a mannau ar gyfer tasgau ar gyfrifiadur.

Uned glinigol a labordai cwsg

Mae ein huned cyfleuster ymchwil glinigol yn amgylchedd pwrpasol ar gyfer cleifion a gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan mewn ymchwil feddygol a threialon clinigol.

Gweithdy ac argraffu 3D

Mae prosiectau ymchwil arloesol yn ymwneud â’r ymennydd yn gofyn am ddatrysiadau uwch-dechnoleg arloesol gan arbenigwyr technegol.

Cyfrifiadura perfformiad uchel

Mae cyfrifiadura perfformiad uchel yn caniatáu i ymchwilwyr ddod o hyd i ganlyniadau fyddai'n cymryd blynyddoedd o'r cyfrifiadau ar gyfrifiaduron safonol o fewn oriau neu ddyddiau.

Ein cyfleusterau

Darganfyddwch sut y gallwch ddefnyddio ein cyfleusterau at ddibenion ymchwil, masnachol neu glinigol.