Ewch i’r prif gynnwys

CPD in Leadership and University Management

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

We work closely with academics across the University to design bespoke programmes in leadership. Examples include our extensive University Management programme, which we created in partnership with the China Scholarship Council.

Programmes are designed to provide organisations with the latest thinking related to leadership, change and management, and provide insights from senior Cardiff University administrators and academics who share their approach to leadership.

Find out more about our work in this sector by browsing our success stories:

Success stories

Rhaglen Arloesi a Rheoli Prifysgol Caerdydd

Rhaglen gynhwysfawr 13 wythnos ar gyfer cynrychiolwyr o lefel ganol i lefel staff uwch o brifysgol Tsieinëeg yn cael ei chyflwyno gan yr Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac Ysgol Busnes Caerdydd.

Cefndir partneriaeth

Mae gan y Brifysgol berthynas hirsefydlog â Tsieina, ac wedi meithrin nifer o gysylltiadau academaidd ffurfiol gyda hwy yn ogystal â chytundebau partneriaeth strategol gyda phrifysgolion ar draws y wlad ar gyfer ymchwil ar y cyd a chyfnewid myfyrwyr.

Yn ystod ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog Madam LIU Yandong i Gaerdydd ym mis Medi 2015, llofnodwyd memorandwm o ddealltwriaeth ar gyfer datblygu a chyflwyno rhaglen arweinyddiaeth.

Noddwyd hwn gan Gyngor Ysgoloriaethau Tsieina (CSC), sy’n cefnogi arweinwyr lefel ganol/uwch o brifysgolion Tsieinëeg. Mae CSC yn trefnu’r rhaglenni hyn yn flynyddol o amgylch y byd (mae digwyddiadau tebyg wedi’u trefnu yn flaenorol yng Nghanada a Singapore).

Mae’r Brifysgol wedi bod mewn partneriaeth â Chyngor Ysgoloriaethau Tsieina ers nifer o flynyddoedd ac mae wedi helpu ysgolheigion symud ymlaen o astudiaethau ôl-raddedig i uwch-swyddi academaidd.

Cynadleddwyr

Yn ystod blwyddyn cyntaf y rhaglen, mynychodd 38 cynadleddwr y rhagln. Yn 2017, cynyddodd y nifer o gynadleddwyr i  52, acyn 2018, mynychodd 106 cynadleddwr o 83 prifysgol gwahanol. Dros gyfnod o tair blynedd, croesawodd y Brifysgol 112 o brifysgolion Tseina i Gaerdydd. Roedd y rhan fwyaf o gynadleddwyr yn gweithio ar lefel Dirprwy Gyfarwyddwr, yna Cyfarwyddwyr ac Is-Ddeoniaid.

Braslun o'r rhaglen dysgu

Rhedodd y rhaglen breswyl o fis Mehefin i fis Medi 2017.

Y thema ar gyfer y rhaglen oedd arweinyddiaeth a rheoli mewn cyd-destun prifysgol, gyda ffocws benodol ar arloesi. Roedd y rhaglen yn cynnwys:

  • sesiynau academaidd (darparwyd gan yr Ysgol Busnes)
  • sesiynau rheoli Prifysgol
  • sesiynau ‘Saesneg er mwyn Cyfathrebu’ ddwywaith yr wythnos
  • sesiynau tiwtorial prosiectau gwella yn arwain at gyflwyniadau terfynol yn ystod wythnos olaf y rhaglen
  • digwyddiadau rhwydweithio ac ymweliadau â chyfleusterau Prifysgol Caerdydd
  • ymweliadau â phrifysgolion lleol eraill gan gynnwys Prifysgol Bryste a Phrifysgol De Cymru
  • amser ymchwil unigol
  • ymweliadau i sefydliadau eraill fel Llywodraeth Cymru
  • sesiynau opsiynol wedi’u trefnu mewn ymateb i feysydd diddordeb a nodwyd gan y cynadleddwyr.

Uchafbwyntiau’r rhaglen

  • Ebostiwyd dadansoddiad hyfforddi cyn y cwrs i’r holl gynadleddwyr, ac fel wnaeth yr ymatebion helpu i lywio’r rhaglen.
  • Cyflwynwyd y cwrs yn gwbl ddwyieithog (Saesneg a Mandarin) gan ddehonglwr hynod fedrus oedd yn gweithio drwy gydol cyfnod y rhaglen, gan adeiladu perthynas ac enw da gyda’r cynadleddwyr.
  • Rhoddwyd pecyn croeso ar-lein dwyieithog i’r holl gynadleddwyr wythnos cyn iddynt gyrraedd yng Nghaerdydd. Roedd y pecyn yn cynnwys eu hamserlen addysgol llawn, gwybodaeth am eu llety a’r cyfleusterau ar gael iddynt ym Mhrifysgol Caerdydd yn ogystal â chanllaw manwl o’r ddinas.
  • Cynhaliwyd cyfarfodydd monitro bob yn ail wythnos rhwng tîm prosiect Prifysgol Caerdydd ac arweinwyr y cynadleddwyr.
  • Anfonwyd adolygiad 6 wythnos i’r cynadleddwyr hanner ffordd drwy’r rhaglen, a holiadur terfynol cyn i’r rhaglen ddod i ben.
  • Cynhaliwyd cinio croeso yn un o fannau ciniawa ffurfiol trawiadol Prifysgol Caerdydd.
  • Fe wnaeth cinio ffarwel yng Nghastell hudolus Caerdydd ddarparu dathliad addas ar gyfer ymdrechion y cynadleddwyr yn ystod y rhaglen. Roedd y cinio yn cynnwys cyflwyno tystysgrifau a rhoi rhoddion gan gynnwys llyfr coffaol.

Canlyniadau ac effaith

Ar ddiwedd y rhaglen, fe wnaeth y cynadleddwyr gyflwyno ar brosiect gwella yr oedden nhw wedi gweithio arno yn ystod sesiynau tiwtorial y prosiect.

Fe wnaeth panel o staff Brifysgol Caerdydd gyflwyno adborth manwl i’r cynadleddwyr ar eu prosiectau gan gynnwys (on nid yn gyfyngedig i) pa mor dda oedd eu dealltwriaeth o faterion allweddol wedi’i gyfleu, eu dealltwriaeth o safbwyntiau rhanddeiliaid, ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella.

Roedd lefel y buddsoddiad a’r ymgysylltiad yn y prosiect a arddangoswyd gan y cynadleddwyr yn cael ei adlewyrchu yn yr adborth a ddarparwyd gan y panel. Ar gyfer un cynadleddwr penodol dywedodd y panel.

Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi’r problemau y gwnaethoch chi eu nodi fel rhan o’r newidiadau yn ogystal â’r pwyntiau cadarnhaol. Roedd rhai datrysiadau creadigol ac arloesol wedi’u rhoi ar waith i wella’r system yn y fframwaith llywodraethol cyfredol.

Adborth gan y panel

Datblygu cysylltiadau

Agwedd allweddol ar y rhaglen oedd sicrhau fod cynadleddwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a sefydliadau eraill. Fe wnaeth tîm y prosiect hwyluso cyfarfodydd rhwng cynadleddwyr a llu o adrannau gwahanol o fewn y brifysgol. Fe wnaeth digwyddiadau rhwydweithio hefyd chwarae rôl ganolog yn y rhaglen.

Adroddiad terfynol yn nodi effaith

Mae [cynrychiolwyr] yn cynnal cyfnewidiadau rhyngwladol addysgol ac academaidd ar y cyd a chysylltiadau eraill [o Brifysgol Caerdydd].

Adborth gan gynrychiolwr, rhaglen 2018

Ar ôl dychwelyd adref, rhannais fy mhrofiad astudio tri mis gyda thua 100 o fy nghydweithwyr. O ran rheolaeth addysg arloesedd ac entrepreneuriaeth, rwy'n fwy parod i gydweithredu â mentrau ac ystyried y berthynas rhwng trawsnewid cyflawniadau gwyddonol a thechnolegol ac addysg entrepreneuriaeth trwy gyfeirio at fodel Prifysgol Caerdydd.

Adborth gan gynrychiolwr, rhaglen 2018

Ar ôl gadael Caerdydd, fe wnaeth y cynadleddwyr roi adborth ar eu profiadau yn ystod y rhaglen. Pan ofynnwyd iddynt nodi’r pethau gorau am y rhaglen, dywedodd un cynadleddwr:

Roedd darlithwyr ac aelodau o staff yn gynnes a dibynadwy, yn pontio cyfathrebu. Diolch.

Adborth gan gynadleddwr

Defnyddiwyd sylwadau ac adborth i ysgrifennu adroddiad terfynol yn nodi effaith y rhaglen a bydd adborth pellach yn cael ei gasglu unwaith y bydd cynadleddwyr wedi bod yn ôl yn eu sefydliadau cartref am dri mis.

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi siarad â ni am sut y gallem ni ddylunio a chyflwyno rhaglen debyg mewn cydweithrediad â'ch sefydliad, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar am drafodaeth anffurfiol gychwynnol:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus

Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Prifysgol Kuwait

Our five-day customised leadership programme for a delegation of mid to senior staff from Kuwait University.

Y rhaglen

Rhaglen arweinyddiaeth pum diwrnod o hyd wedi’i deilwra ar gyfer 12 o staff ar lefel rheoli a goruchwylio o Brifysgol Kuwait.

Rhedodd y rhaglen o ddydd Llun 16 Hydref i ddydd Gwener 20 Hydref 2017.

Y prif themâu oedd rheoli prosesau ac awtomateiddio llif gwaith gweinyddol - symud o waith papur i system awtomataidd, a’r newidiadau sy’n datblygu llif gwaith, adnoddau dynol ac yn hwyluso gweithdrefnau gweinyddol.

Fformat

  • dysgu’n cael ei gyflwyno gan Ysgol Busnes Caerdydd
  • cyflwyniadau gan staff gwasanaeth proffesiynol Prifysgol Caerdydd
  • teithiau o gampws a chyfleusterau Prifysgol Caerdydd
  • ymweliadau a chiniawa rhwydweithio.

Adborth cynrychiolwyr

Roedd yr ymateb i’r rhaglen yn gadarnhaol, gyda chyfranogwyr yn amlygu eu mwynhad o ran ansawdd a rheoli amser sesiynau a gyflwynwyd gan Dr Maneesh Kumar, a’u hymweliad ag adran TG Prifysgol Caerdydd.

Roedd cyfranogwyr hefyd yn gwerthfawrogi’r amrywiaeth o gyfranogwyr i’r rhaglen.

Roedd popeth yn wych, y lleoliad, yr addysgu a’r pynciau.

Adborth cynrychiolwyr

Rhaglen arweinyddiaeth 5 diwrnod wedi’i deilwra ar gyfer cynrychiolwyr o staff uwch o Brifysgol Kuwait.

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus

Arwain a rheoli yn y sector cyhoeddus yn Tsieina

Rhaglen ddwys, rhyngweithiol, pythefnos o hyd ar gyfer mynychwyr o Tsieina, a ddarparwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd gyda chyfraniadau gan brifysgolion eraill o Gymru.

Cynrychiolwyr o Tsieina yn ymweld ag Ysgol Busnes Caerdydd
Cynrychiolwyr o Tsieina yn ymweld ag Ysgol Busnes Caerdydd 10 Tachwedd 2015

Mae Chengdu Administration Institute yn adran israddol o lywodraeth drefol Chengdu, a’i dasg yw hyfforddi gweision llywodraeth trefol a gweision sifil dinas elfennol. Mae’r sefydliad yn rhoi pwysigrwydd mawr ar addysgu a gwaith ymchwil gydag athrawon dethol yn cael eu hanfon dramor ar gyfer hyfforddiant a chyfnewid academaidd rhyngwladol bob blwyddyn.

Addysgu a arweinir gan ymchwil

Roedd y rhaglen yn defnyddio ymchwil ac arbenigedd Ysgol Busnes Caerdydd mewn arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector cyhoeddus yn y DU, gyda ffocws penodol ar rai o’r heriau a’r blaenoriaethau a wynebir, a sut y gellir defnyddio’r rhain mewn cyd-destun Tsieinëaidd.

Yn ogystal â’r ddarpariaeth ffurfiol, trefnwyd cyfres o giniawa rhwydweithio ac ymweliadau ymarferol i wella profiad personol a phroffesiynol y mynychwyr tra yng Nghymru.

Darpariaeth gydweithredol

Darparwyd y rhaglen ar y cyd rhwng Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Er mwyn sicrhau bod y cyfranogwyr yn manteisio i’r eithaf ar y sesiynau, cyflwynwyd yr addysgu yn ddwyieithog yn Saesneg a Tsieinëeg.

Adborth rhagorol

Roedd ymateb i’r rhaglen yn gadarnhaol iawn. Roedd cyfranogwyr yn teimlo eu bod wedi elwa ar y safbwyntiau gwahanol a gynigiwyd gan y cydweithredu, a bod yr arddulliau dysgu ac addysgu amrywiol a rhyngweithiol wedi gwella’r profiad.

Roedd darlithwyr ac aelodau o staff yn gynnes a dibynadwy, yn pontio cyfathrebu. Diolch.

Adborth gan gynadleddwr

CPD Unit

Our team is here to help you access the right training for your organisation. We will listen and work in partnership with you, from identification of your training requirement, through to course design, delivery and beyond. These are the key members of our team who you're likely to work with if you require a programme in this sector. Each person has a huge amount of experience in creating and delivering CPD programmes in education and training skills.

Contact us to discuss how we can work together to create a bespoke programme for your organisation.

Clare Sinclair

Clare Sinclair

Pennaeth yr Uned DPP

Email
sinclairc@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5451
Dr Phil Swan

Dr Phil Swan

Rheolwr Datblygu Busnes - Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

Email
swanp1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4638
Jessica Gasson

Jessica Gasson

Swyddog Prosiect

Email
gassonj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0)29 2087 6342

Lead academics and professionals

Sarah Lethbridge

Sarah Lethbridge

Pro Dean of External Engagement

Email
lethbridgesl@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5096