Ewch i’r prif gynnwys
Dr Phil Swan

Dr Phil Swan

Rheolwr Datblygu Busnes - Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

Email
swanp1@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4638
Campuses
21-23 Ffordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Trosolwg

Phil yw Rheolwr Datblygu Busnes yn yr Uned DPP a’r prif gyswllt rhwng yr Uned DPP a Choleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae ei rôl yn cynnwys cynorthwyo cydweithwyr i ddatblygu a chynnal cynigion DPP hyblyg, gan gynnwys cyrsiau byr hyd at fodiwlau ôl-raddedig annibynnol, yn ogystal â monitro, coladu a hysbysu ynghylch data mewn perthynas â gweithgaredd DPP.

Mae’n angerddol am weithio gydag adrannau academaidd i helpu i ledaenu’r cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd sydd gennym yn y Brifysgol ymysg sefydliadau sector preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector drwy gyfrwng hyfforddiant ymarferol, ymgysylltu a chanolbwyntio ar effaith rhaglenni.

Bywgraffiad

Ymunais â’r Uned DPP ar ôl gweithio mewn rôl datblygu rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe lle roeddwn yn gweithio ledled y Dwyrain Canol, yn ogystal â Tsieina a Rwsia. Cyn hynny, gweithiais mewn swyddi ymgysylltu â busnes ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth, yn ogystal â Phrifysgol Bedfordshire, lle bûm yn goruchwylio prosiect sgiliau lefel uwch Luton.

Mae gen i radd dosbarth cyntaf mewn Rheoli Busnes o Brifysgol Caer, gradd meistr mewn Entrepreneuriaeth Strategol o Brifysgol Southampton, a doethuriaeth o Brifysgol De Cymru. Cafodd fy ymchwil ddoethurol ei noddi gan Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) ac roedd yn edrych ar nodweddion ymddygiadol entrepreneuriaid Cenhedlaeth Z yng Nghymru.