Ewch i’r prif gynnwys

Cymhwyster Gorsaf Heddlu (PSQ)

Rydym yn cynnig y pecynnau canlynol o gyrsiau hyfforddi ac asesiadau ar gyfer cynllun Cymwysterau Gorsafoedd Heddlu (PSQ), sy'n ddewis amgen i'r PSRAS ar gyfer ymarferwyr cymwysedig yn unig.

Mae'r dudalen hon yn rhoi manylion y pecynnau sydd ar gael. I brynu un o'r pecynnau hyn, anfonwch ebost at law-pdu@cardiff.ac.uk

Sylwch, mae'n ofynnol i ni godi ffi o £20 gan Gymdeithas y Gyfraith am bob cofrestriad newydd. Os ydych eisoes wedi talu hyn, ni chodir tâl arnoch. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y cam basged siopa.

Pawb yn gynhwysol

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys y ddau asesiad sy'n ofynnol i ennill y cymhwyster PSQ, yn ogystal â dau gwrs hyfforddi cysylltiedig a gynlluniwyd i'ch helpu i basio'r asesiadau. Pan fyddwch yn dewis y pecyn hwn, byddwch yn cael taleb sy'n cynnwys gostyngiad o £95 yn erbyn y gost o brynu'r holl elfennau ar wahân.

Pan fyddwch wedi prynu eich taleb, byddwch yn gallu gweld y dyddiadau sydd ar gael, cadw lle mewn cyrsiau a threfnu asesiadau.

Sylwer, o dan y cynllun PSQ, nad yw ymgeiswyr yn gymwys i hawlio taliad (o'r LAA) i ymweld â gorsaf heddlu. Gallwch wneud cais am daliad o dan gynllun achredu PSRAS.

Rydym yn argymell bod pob ymgeisydd, waeth beth fo'i brofiad a'i gymwysterau, yn ymgymryd â'r PSRAS yn hytrach na'r PSQ. Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost neu ar 029 2087 6948 i drafod yn fanylach.

Mae'r pecyn hollgynhwysol yn cynnwys:

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a chyflwyno portffolio o achosion sy'n ymwneud â bod yn bresennol mewn gorsaf heddlu mewn cyfweliadau.

Diben y Portffolio yw:

  • Ein galluogi i asesu eich cymhwysedd i roi cyngor mewn gorsafoedd heddlu
  • Eich annog i ystyried a myfyrio ar eich perfformiad yng ngorsaf yr heddlu
  • Annog eich cyfreithiwr goruchwylio i adolygu eich cymhwysedd ac i gymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion.

Cyflwynir y portffolio o achosion mewn dwy ran.

Mae Rhan A yn cynnwys pedwar achos, mewn dau gyflwyniad ar wahân, yn y drefn ganlynol:

  • Adroddiadau manwl am ddau achos pan fuoch chi’n arsylwi eich cyfreithiwr goruchwyliol a oedd yn cynghori cleient
  • Adroddiadau manwl am ddau achos pan fuoch chi’n rhoi cyngor i gleient ac wedi cael eich arsylwi gan eich cyfreithiwr goruchwyliol.

Mae’n rhaid i'r achosion hyn fod mewn trefn gronolegol ac mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi digwydd llai na thri mis yn ôl.  Gellir cyflwyno Rhan A portffolio ar unrhyw adeg.

Mae angen cyflwyno’r canlynol ar gyfer Rhan B:

  • Adroddiadau manwl o bum achos arall pan fuoch chi’n cynghori cleient ar eich pen eich hun.

Diben y Prawf Digwyddiadau Critigol yw asesu eich effeithiolrwydd wrth gynghori a chynorthwyo cleientiaid yng ngorsaf yr heddlu. Mae'r CIT yn digwydd ar ffurf asesiad chwarae rôl o dan amodau arholiad.

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd ymgymryd â'r Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT).

Mae'r asesiad hwn yn brawf chwarae rôl, byw. Nod y prawf yw ail-greu cyfweliad mewn gorsaf heddlu a defnyddir recordiadau sain ynddo i roi gwybodaeth. Gallwch chi ymyrryd yn ystod seibiau penodol i ymateb i wybodaeth, gofyn am ragor o wybodaeth neu gynghori'r cleient. Mae’r prawf cyfan yn cael ei recordio at ddibenion asesu. Cynhelir y prawf ar sail unigol ac mae'n para am 45 munud ar y mwyaf.

Mae'r prawf hwn yn asesu a yw eich ymatebion yn briodol, gan gyfeirio at arferion a gweithdrefnau mewn gorsafoedd heddlu. Mae hefyd yn golygu bod modd asesu sgiliau allweddol (er enghraifft cyfathrebu, negodi a phendantrwydd).

Gallwch ddewis mynd i CIT wyneb-yn-wyneb neu ar-lein.

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i baratoi eich portffolio o achosion.

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gyfarwydd â'r rheoliadau PSRAS mewn perthynas â phortffolios, gan gynnwys y gofynion i sicrhau bod eich portffolio yn cydymffurfio'n dechnegol. Byddwch yn cael canllawiau i sicrhau bod fformat a chynnwys eich portffolio yn foddhaol.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn rhoi cyfle i chi ystyried nifer o achosion sampl a chael cyngor ar y cryfderau a’r gwendidau o ran sylwedd a’r ffordd y cyflwynir pob achos.

Sylwch fod y cwrs hwn hefyd yn ymdrin â pharatoi portffolios gan gyfreithwyr sy'n ceisio ennill Cymhwyster Gorsaf yr Heddlu.

Oriau DPP: 4

Rydym yn argymell yn gryf na ddylech archebu'r cwrs hyfforddi CIT nes eich bod wedi cwblhau 10 neu fwy o ymweliadau unigol â gorsafoedd heddlu, gan fod y cynnwys yn tybio bod gennych y lefel hon o brofiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni.

Nod y cwrs hwn yw eich paratoi ar gyfer y Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT). Mae natur anarferol yr asesiad CIT yn gwneud y cwrs hwn yn arbennig o ddefnyddiol.

Mae'n mynd i'r afael ag arddull y prawf ei hun a'r cynllun marcio. Bydd yn rhoi arweiniad ar sut i osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin.

Cewch gyfle i ymgymryd â rhai rhannau o CIT mewn grwpiau bach ar-lein gyda chynrychiolwyr a chyfreithwyr eraill sydd dan brawf.

Mae cynnwys y cwrs hwn yn ysgogi trafodaeth ar arferion a gweithdrefnau gorsafoedd yr heddlu a gall eich helpu i wella’ch sgiliau a thechnegau gorsaf heddlu yn gyffredinol.

Oriau DPP: 3

Yr holl brofion a chwrs hyfforddi CIT

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys y Prawf Digwyddiadau Critigol, y Portffolio, a'r cwrs hyfforddi CIT. Pan fyddwch yn dewis y pecyn hwn, byddwch yn cael taleb sy'n cynnwys gostyngiad o £60 yn erbyn y gost o brynu'r holl elfennau ar wahân.

Pan fyddwch wedi prynu eich taleb, byddwch yn gallu gweld y dyddiadau sydd ar gael, cadw lle mewn cyrsiau a threfnu asesiadau.

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys:

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a chyflwyno portffolio o achosion sy'n ymwneud â bod yn bresennol mewn gorsaf heddlu mewn cyfweliadau.

Diben y Portffolio yw:

  • Ein galluogi i asesu eich cymhwysedd i roi cyngor mewn gorsafoedd heddlu
  • Eich annog i ystyried a myfyrio ar eich perfformiad yng ngorsaf yr heddlu
  • Annog eich cyfreithiwr goruchwylio i adolygu eich cymhwysedd ac i gymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion.

Cyflwynir y portffolio o achosion mewn dwy ran.

Mae Rhan A yn cynnwys pedwar achos, mewn dau gyflwyniad ar wahân, yn y drefn ganlynol:

  • Adroddiadau manwl am ddau achos pan fuoch chi’n arsylwi eich cyfreithiwr goruchwyliol a oedd yn cynghori cleient
  • Adroddiadau manwl am ddau achos pan fuoch chi’n rhoi cyngor i gleient ac wedi cael eich arsylwi gan eich cyfreithiwr goruchwyliol.

Mae’n rhaid i'r achosion hyn fod mewn trefn gronolegol ac mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi digwydd llai na thri mis yn ôl.  Gellir cyflwyno Rhan A portffolio ar unrhyw adeg.

Mae angen cyflwyno’r canlynol ar gyfer Rhan B:

  • Adroddiadau manwl o bum achos arall pan fuoch chi’n cynghori cleient ar eich pen eich hun.

Diben y Prawf Digwyddiadau Critigol yw asesu eich effeithiolrwydd wrth gynghori a chynorthwyo cleientiaid yng ngorsaf yr heddlu. Mae'r CIT yn digwydd ar ffurf asesiad chwarae rôl o dan amodau arholiad.

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd ymgymryd â'r Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT).

Mae'r asesiad hwn yn brawf chwarae rôl, byw. Nod y prawf yw ail-greu cyfweliad mewn gorsaf heddlu a defnyddir recordiadau sain ynddo i roi gwybodaeth. Gallwch chi ymyrryd yn ystod seibiau penodol i ymateb i wybodaeth, gofyn am ragor o wybodaeth neu gynghori'r cleient. Mae’r prawf cyfan yn cael ei recordio at ddibenion asesu. Cynhelir y prawf ar sail unigol ac mae'n para am 45 munud ar y mwyaf.

Mae'r prawf hwn yn asesu a yw eich ymatebion yn briodol, gan gyfeirio at arferion a gweithdrefnau mewn gorsafoedd heddlu. Mae hefyd yn golygu bod modd asesu sgiliau allweddol (er enghraifft cyfathrebu, negodi a phendantrwydd).

Gallwch ddewis mynd i CIT wyneb-yn-wyneb neu ar-lein.

Rydym yn argymell yn gryf na ddylech archebu'r cwrs hyfforddi CIT nes eich bod wedi cwblhau 10 neu fwy o ymweliadau unigol â gorsafoedd heddlu, gan fod y cynnwys yn tybio bod gennych y lefel hon o brofiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni.

Nod y cwrs hwn yw eich paratoi ar gyfer y Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT). Mae natur anarferol yr asesiad CIT yn gwneud y cwrs hwn yn arbennig o ddefnyddiol.

Mae'n mynd i'r afael ag arddull y prawf ei hun a'r cynllun marcio. Bydd yn rhoi arweiniad ar sut i osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin.

Cewch gyfle i ymgymryd â rhai rhannau o CIT mewn grwpiau bach ar-lein gyda chynrychiolwyr a chyfreithwyr eraill sydd dan brawf.

Mae cynnwys y cwrs hwn yn ysgogi trafodaeth ar arferion a gweithdrefnau gorsafoedd yr heddlu a gall eich helpu i wella’ch sgiliau a thechnegau gorsaf heddlu yn gyffredinol.

Oriau DPP: 3

Talu wrth i chi fynd

Os yw'n well gennych, gallwch brynu pob elfen yn unigol:

Portffolio

Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT) (ar lein)

Sylwch: ni allwch drefnu Prawf Digwyddiadau Critigol nes y byddwch wedi cwblhau’r arholiad ysgrifenedig a Rhan A o’r portffolio’n llwyddiannus, gan gynnwys cael eich pin gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol. Anfonwch ebost atom yn law-pdu@caerdydd.ac.uk gyda phrawf o'r cymwysterau hyn ac yna fe anfonwn ni’r dolen(ni) cadw lle perthnasol atoch.

  • 7 Mai
  • 17 Gorffennaf
  • 23 Gorffennaf
  • 3 Hydref
  • 9 Hydref
  • 21 Tachwedd
  • 26 Tachwedd

Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT) (wyneb yn wyneb)

Sylwch: ni allwch drefnu Prawf Digwyddiadau Critigol nes y byddwch wedi cwblhau’r arholiad ysgrifenedig a Rhan A o’r portffolio’n llwyddiannus, gan gynnwys cael eich pin gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol. Anfonwch ebost atom yn law-pdu@caerdydd.ac.uk gyda phrawf o'r cymwysterau hyn ac yna fe anfonwn ni’r dolen(ni) cadw lle perthnasol atoch.

  • 23 Gorffennaf

Cwrs hyfforddiant portffolio

Cwrs hyfforddi Prawf Digwyddiadau Critigol

Rydym yn argymell yn gryf na ddylech archebu'r cwrs hyfforddi CIT nes eich bod wedi cwblhau 10 neu fwy o ymweliadau unigol â gorsafoedd heddlu, gan fod y cynnwys yn tybio bod gennych y lefel hon o brofiad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch law-pdu@caerdydd.ac.uk.

Cysylltu â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y pecynnau hyn neu unrhyw beth arall, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i'ch helpu:

Professional Development Unit