Ewch i’r prif gynnwys

Y Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Yng Ngorsaf yr Heddlu

Mae'r cynllun hwn yn ymwneud ag achredu cynrychiolwyr sy'n cynghori pobl dan amheuaeth yng ngorsaf yr heddlu. Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithwyr sy'n ymgymryd â gwaith cymorth cyfreithiol troseddol yn defnyddio cynrychiolwyr achrededig i gynghori a chynorthwyo cleientiaid mewn gorsafoedd heddlu.

I bwy mae’r cynllun

Unrhyw un sydd eisiau bod yn gynrychiolydd achrededig yng ngorsaf yr heddlu a rhoi cyngor yng ngorsaf yr heddlu. Hawlir taliad am wneud hyn gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA).

Mae'r Cynllun Achredu Cynrychiolwyr yng Ngorsaf yr Heddlu yn agored i ymarferwyr cymwys, cyfreithwyr dan hyfforddiant, a'r rheiny nad oes ganddyn nhw fawr o gefndir cyfreithiol, os o gwbl.

Mae gofynion penodol yn wahanol, gan ddibynnu a ydych chi wedi'ch eithrio o'r arholiad ysgrifenedig. Gweler tudalen pecynnau PSRAS am fanylion y llwybr cywir i'w ddewis.

Yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu

Mae'r cynllun yn profi eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o’r gyfraith a’r weithdrefn droseddol, troseddau cyffredin a rheolau tystiolaeth. Mae'r cynllun hefyd yn profi eich dealltwriaeth o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) a'r Codau Ymarfer ynghlwm wrth ddeddf PACE.

Mae’n rhaid ichi hefyd ddangos gwybodaeth am rôl amddiffyn y cleient yng ngorsaf yr heddlu. Byddwch hefyd yn cael eich profi i sicrhau bod gennych chi’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn gynghorydd effeithiol - er enghraifft:

  • Cyfathrebu
  • Trafod
  • Techneg gyfweld
  • Y gallu i gynghori’n llwyddiannus.

Rhagor am y cynllun achredu

Mae tair elfen asesu ynghlwm wrth y cynllun. Mae’n rhaid cwblhau'r tri yn llwyddiannus cyn ichi gael eich achredu.

Arholiad Ysgrifenedig

Asesiad dwy awr a hanner ar-lein sy’n cael ei 'oruchwylio' yw’r arholiad. Mae’n asesu eich dealltwriaeth o rôl y cynghorydd yng ngorsaf yr heddlu, ynghyd â'r sgiliau angenrheidiol i gyflawni'r rôl hon yn ogystal â gwybodaeth am y gyfraith a’r weithdrefn droseddol.

Eithriadau

Cewch eich eithrio o'r arholiad ysgrifenedig os oes gennych chi unrhyw un o'r canlynol:

  • LPC (Cwrs Ymarfer Cyfreithiol)
  • BTC (Cwrs Hyfforddi’r Bar) neu ei ragflaenydd

Neu os ydych chi:

  • Yn Gymrawd neu’n Aelod o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol a’ch bod wedi pasio llwybr troseddol Diploma yn y Gyfraith ac Ymarfer lefel 6 CILEX (a elwid gynt yn Ddiploma Uwch yn y Gyfraith lefel 6 CILEX ar gyfer gweithwyr proffesiynol gan gynnwys cyfraith droseddol ac ymgyfreitha troseddol).

Mae’n rhaid ichi ddangos tystiolaeth o'r cymwysterau uchod er mwyn cael eich eithrio.

Portffolio

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a chyflwyno portffolio o achosion sy’n dangos pryd y buoch chi’n arsylwi neu’n cynghori cleient a oedd yn cael ei gyfweld mewn gorsaf heddlu.

Cyn cofrestru gyda'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA), mae’n rhaid ichi llwyddo yn yr arholiad ysgrifenedig. Am y rheswm hwn, rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn gwneud yr arholiad ysgrifenedig, ac yn llwyddo ynddo, cyn cyflwyno Rhan A y portffolio. Y rheswm am hyn yw na all yr achosion yn Rhan A fod yn hŷn na thri mis ar adeg eu cyflwyno.

Cyflwynir y portffolio o achosion mewn dwy ran.

Mae Rhan A yn cynnwys pedwar achos a ddarperir mewn dau gyflwyniad ar wahân, yn y drefn ganlynol:

  • Adroddiadau manwl am ddau achos pryd y buoch chi’n arsylwi eich cyfreithiwr goruchwyliol a oedd yn cynghori cleient
  • Adroddiadau manwl am ddau achos pryd y buoch chi’n rhoi cyngor i gleient ac wedi cael eich arsylwi gan eich cyfreithiwr goruchwyliol.

Mae’n rhaid i'r achosion hyn fod mewn trefn gronolegol ac mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi wedi digwydd llai na thri mis yn ôl.  Gellir cyflwyno Rhan A portffolio ar unrhyw adeg.

Mae Rhan B yn cynnwys cyflwyniad sy’n cynnwys:

  • Adroddiadau manwl o bum achos arall pryd buoch chi’n cynghori cleient ar eich pen eich hun.

Cyflwyno eich portffolio

Os ydych chi wedi'ch eithrio o'r arholiad ysgrifenedig neu os ydych chi eisoes wedi llwyddo ynddo:

Pan fyddwch chi wedi anfon Rhan A y portffolio aton ni ac mae wedi cael ei gwirio’n dechnegol o ran cydymffurfiaeth, cewch wneud cais i'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA) am PIN, sy'n eich galluogi i ymgymryd â gwaith heb oruchwyliaeth ar brawf.

Byddwch chi’n cyflwyno Rhan B gan anfon copi arall o Ran A. Bryd hynny, caiff y portffolio cyflawn (Rhan A a Rhan B) ei asesu fel un cyflwyniad.

Bydd rhagor o wybodaeth am y rheoliadau a’r canllawiau yn cael ei chynnwys yn eich pecyn croeso pan fyddwch chi wedi gwneud eich archeb gyda ni.

Mae’n rhaid i gynrychiolwyr ar brawf lwyddo yn y portffolio neu yn yr elfen Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT) cyn pen chwe mis ar ôl cyhoeddi'r PIN, ac mae’n rhaid iddyn nhw lwyddo yn y ddwy elfen cyn pen deuddeg mis ar ôl eu cyhoeddi.

Pob ymgeisydd arall: 

Mae’n rhaid i chi lwyddo yn yr arholiad ysgrifenedig cyn cofrestru â'r LAA. Am y rheswm hwn, rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn cwblhau'r arholiad ysgrifenedig cyn cyflwyno Rhan A o’ch Portffolio. Mae’n rhaid i’r achosion beidio â bod yn hŷn na 3 mis pan gânt eu cyflwyno, felly mae'n synhwyrol cwblhau a bod wedi llwyddo yn yr arholiad ysgrifenedig yn gyntaf.

Ar ôl ichi lwyddo yn yr arholiad ysgrifenedig, bydd y broses o asesu eich portffolio yn mynd yn ei flaen yn unol â’r uchod.

Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT)

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd ymgymryd â'r Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT). Dim ond cynrychiolwyr ar brawf sydd â PIN a gyhoeddwyd gan y LAA all sefyll y prawf hwn.

Sut y cewch eich asesu

Mae'r asesiad hwn yn brawf chwarae rôl byw. Nod y prawf yw ail-greu cyfweliad mewn gorsaf heddlu ac mae'n defnyddio recordiadau sain i roi gwybodaeth. Gallwch chi ymyrryd yn ystod seibiau penodol i ymateb i wybodaeth, gofyn am ragor o wybodaeth neu gynghori'r cleient. Cofnodir y prawf cyfan at ddibenion asesu. Cynhelir y prawf ar sail unigol ac mae'n para am 45 munud ar y mwyaf.

Mae'r prawf hwn yn asesu a yw eich ymatebion yn briodol, gan gyfeirio at arferion a gweithdrefnau mewn gorsafoedd heddlu. Mae hefyd yn golygu bod modd asesu sgiliau allweddol (er enghraifft cyfathrebu, negodi a phendantrwydd).

Mae’n rhaid i gynrychiolwyr prawf lwyddo naill ai yn yr elfen portffolio neu'r elfen CIT cyn pen chwe mis ar ôl cyhoeddi'r PIN ac mae’n rhaid iddyn nhw lwyddo yn y ddwy elfen cyn pen deuddeg mis.

Gallwch ddewis mynd i CIT wyneb-yn-wyneb neu ar-lein.

Gwybodaeth bwysig

Mae safonau cymhwysedd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yn nodi'r holl feysydd gwybodaeth a sgiliau y bydd disgwyl ichi eu dangos.

Er mwyn hawlio ad-daliad gan y Gronfa Cymorth Cyfreithiol, mae’n rhaid ichi fod wedi cael eich achredu neu fod wedi'ch cofrestru â'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA) yn gynrychiolydd ar brawf. Mae'r LAA yn gyfrifol am weinyddu'r Gronfa Cymorth Cyfreithiol.

Gallwch chi gofrestru â'r LAA am hyd at flwyddyn os ydych chi’n gynrychiolydd ar brawf. Mae’n rhaid ichi lwyddo mewn un elfen asesu cyn pen chwe mis ar ôl cofrestru â'r LAA. Mae’n rhaid ichi lwyddo ym mhob elfen asesu cyn pen blwyddyn ar ôl cofrestru â'r LAA. Bydd methu â chyflawni hyn yn golygu y byddech chi’n cael eich atal dros dro gan yr LAA rhag ymgymryd â gwaith cymorth cyfreithiol yng ngorsaf yr heddlu.

Cysylltu â ni

Professional Development Unit