Ewch i’r prif gynnwys

Cwynion

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu datrysiadau a gwasanaethau o ansawdd uchel wedi’u dylunio i fodloni anghenion ein holl gwsmeriaid.

Rydyn bob amser yn ceisio darparu’r gwasanaethau hyn mewn modd proffesiynol, teg a chwrtais, sydd o fewn geiriad ac ysbryd Polisi Urddas yn y Gwaith ac Wrth Astudio y Brifysgol.

Ar yr achosion prin hynny lle mae gwasanaeth, aelod o staff, neu gyfleuster yn methu â bodloni disgwyliadau cwsmeriaid, anogir cwsmeriaid i ddarparu adborth adeiladol a fydd yn ein helpu i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn barhaus.

Y weithdrefn gwyno

Gall yr holl ddefnyddwyr gwasanaeth uniongyrchol wneud cwyn. Gellir codi materion sy’n ymwneud ag ansawdd y gwasanaethau a’r cyfleusterau a ddarperir o dan y weithdrefn. Mae gennych hawl i gwyno a derbyn ymatebion yn Gymraeg os mai dyna yw eich dymuniad.

CamUnioglyn sy'n delio â'r gŵynGweithred gan y cwsmerGweithred gan Brifysgol Caerdydd
Cam un -  
datrys cynnar (llafar/e-bost)
Aelod staff yn yr Uned DPPY gŵyn i'w chodi ar lafar ymhen saith diwrnod calendr ar ôl y digwyddiad Cyswllt: +44 (0)29 2087 5274/train@caerdydd.ac.ukY nod yw ei datrys ymhen saith diwrnod calendr.
Cam dau -  
datrys cynnar (ysgrifenedig)
Pennaeth yr Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Y gŵyn i'w chodi ymhen saith diwrnod calendr ar ôl y digwyddiad neu ar ôl cael ymateb llafar yng ngham un. Cwyn i’w chodi yn ysgrifenedig gyda Pennaeth yr Uned DPP

Y nod yw ei datrys ymhen 14 diwrnod calendr.
Cam tri -  
ffurfiol
Weinyddwr Cwynion

Os ydych chi'n anfodlon â chanlyniad y cam datrys cynnar, neu os yw eich pryder o natur ddifrifol, gallwch gyflwyno cwyn cam ffurfiol. Bydd cwynion ffurfiol yn dilyn gweithdrefn cwynion y Brifysgol

Y nod yw ei datrys ymhen 14 diwrnod calendr.
Ar ôl cwyn Swyddog Gweinyddol Dim cam gweithreduYn dilyn cwyn - e-bost i’w anfon i’r sawl sy’n cwyno o fewn saith diwrnod yn dilyn ymateb i’r gŵyn gychwynnol gyda dolen yn gofyn am adborth am y ffordd mae’r broses cwynion cyffredinol

Sylwer y dylid ymdrin ag unrhyw gwynion yn nhrefn y camau, fel y nodir uchod – gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion yn y camau datrys cynnar.

Er mwyn gwella ansawdd y gwasanaethau a gynigir, bydd y Brifysgol yn cadw cronfa ddata o'r holl gwynion ffurfiol. Bydd y wybodaeth yn y gronfa ddata hon yn gyfrinachol, ynghyd â'r dogfennau perthnasol, ac fe'u defnyddir at ddibenion cyfeirio, monitro a dadansoddi mewn perthynas â'r weithdrefn gwyno. Bydd defnydd o'r fath yn amodol ar ofynion Deddf Diogelu Data.

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus