Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu proffesiynol

Cynigiwn gyfleoedd datblygu proffesiynol helaeth i wella eich sgiliau a rhoi’r wybodaeth a’r technegau diweddaraf i chi.

Dysgwch wrth i chi fynd ymlaen, gyda chyrsiau hyfforddi hyblyg i gydbwyso eich astudiaethau â gofynion eich gwaith. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth croesawgar, dibynadwy, sy’n mynd tu hwnt i ddisgwyliadau cwsmeriaid.

Datblygwch eich sgiliau a’ch gwybodaeth broffesiynol gyda'n rhaglen cwrs byr, wrth rannu profiadau a syniadau ag eraill yn eich maes.

Rydym yn cynnig ystod ddethol o fodiwlau a addysgir i ôl-raddedigion y gellir eu hastudio yn unigol.

Cwrs ar-lein 16 wythnos ar gyfer meddygon sy'n rhoi gofal i gleifion dermatoleg â chyflyrau gwallt ac ewinedd.

We offer various packages to study the PSRAS.

Newyddion diweddaraf

Cyrsiau datblygiad proffesiynol sero net

7 Hydref 2024

Sut mae mynd ati i uwchsgilio, ailsgilio, a dysgu sgiliau newydd er mwyn paratoi at drosglwyddo i Sero Net?

Cynnal rhaglen addysg weithredol bwrpasol ar gyfer un o Bartneriaid Strategol y Brifysgol

30 Gorffennaf 2024

Bu’r Uned DPP yn cydweithio â Dr Saloomeh Tabari, Cyfarwyddwr y Rhaglen MBA Ysgol Busnes Caerdydd, i ddatblygu a chynnal Ysgol Haf Weithredol unigryw ar gyfer myfyrwyr MBA Prifysgol Xiamen.

Hanfodion Synthesis Tystiolaeth

29 Gorffennaf 2024

WCEBC wedi darparu dau ddiwrnod o hyfforddiant arbenigol i glinigwyr ac academyddion o Urdd Nyrsys, Bydwragedd a Chynorthwywyr Meddygol, Cangen Bucharest (OAMGMAMR), Rwmania, fel rhan o gytundeb mentora ffurfiol rhwng WCEBC a Chanolfan Ymchwil Nyrsio Rwmania.

Gallwn gynnig fersiynau wedi’u teilwra o gwrs hyfforddiant DPP presennol, neu ddatblygu rhywbeth yn benodol i’ch sefydliad. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Rydym yn cynnig nifer o raglenni cyffrous, gan gynnwys cyrsiau Di-wastraff a Rheoli. Mae'r rhain yn eich galluogi i gael safbwyntiau newydd ar amrywiaeth o faterion busnes a rheoli.