Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Ddermoscopi Gwallt ac Ewinedd (ar-lein)

Dull diagnostig anymwthiol a ddefnyddir yn eang yw dermoscopi sy'n helpu i wneud diagnosis o gyflyrau croen dermatolegol ac atodion croen.

Mae Dermoscopi gwallt ac ewinedd, a gaiff hefyd ei alw'n "Trichoscopy" ac "Onychoscopy”, yn faes newydd sy'n datblygu ym maes Dermoscopi sydd wedi helpu i wneud diagnosis o glwyfau ewinedd â phigment a rhai heb bigment a nifer o gyflyrau'r gwallt a chroen y pen.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill

Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi . Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.

Aeth rhywbeth o'i le

Nid yw'ch ymholiad wedi'i gyflwyno. Cysylltwch â ni drwy ebostio training@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44 (0)29 2087 5274.

Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich enw cyntaf.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfenw.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfeiriad ebost.
A hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am y cwrs hwn, yn ogystal â newyddion, digwyddiadau a chynigion CPD?

Hysbysiad am breifatrwydd a diogelu data

Bydd Prifysgol Caerdydd yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data. Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i’r Brifysgol brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch, yn unol â’r dewisiadau a nodwyd gennych uchod a rheoliadau diogelu data. Cewch newid eich meddwl ynglŷn â rhoi caniatâd ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r Tîm Datblygiad Proffesiynol.

Ewch i’n tudalennau gwybodaeth gyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i fynegi pryder ynghylch sut y caiff eich data bersonol ei brosesu.Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol - inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd fynegi unrhyw bryder drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Diolch

Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae'r cwrs ar-lein hwn sy’n para 16 wythnos yn benodol ar gyfer meddygon sy'n ymwneud â gofalu am gleifion dermatoleg sydd â chlwyfau gwallt ac ewinedd, ac sydd am ddysgu rhagor am ddermoscopi atodion croen i wella eu sgiliau diagnosis o ran anhwylderau gwallt ac ewinedd.  Mae'r cwrs hefyd ar gyfer nyrsys arbenigol sy'n gweithio mewn clinigau croen, yn amodol ar gymhwyster priodol.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Nod y rhaglen hon yw datblygu'r gallu i ddefnyddio dermatosgop i wneud y canlynol:

  • deall nodweddion Trichoscopig arferol croen y pen a gwallt
  • deall nodweddion Onychoscopig arferol ewinedd
  • gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o alopesia nad ydynt yn rhai creithiol
  • gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o alopesia creithiol
  • helpu i wneud diagnosis o gyflyrau gwallt a chroen y pen ar unigolion y mae croen eu pen â phigment
  • gwahaniaethu rhwng anhwylderau ewinedd trawmatig, heintus a llidiol
  • gwahaniaethu rhwng tiwmorau ewinedd diniwed a niweidiol
  • helpu i wneud diagnosis o rai o glwyfau ewinedd â phigment

Pynciau dan sylw

Mae wyth pwnc wedi cael eu hysgrifennu gan ddermatolegwyr blaenllaw ym maes dermoscopi. Disgwylir i gyfranogwyr gwblhau pwnc bob pythefnos.

Mae nodweddion y cwrs yn cynnwys y canlynol:

  • deunyddiau pwnc manwl gyda ffotograffau achosion go iawn
  • cwisiau modiwl (sy'n rhoi adborth ar unwaith am berfformiad) ar gyfer pob modiwl
  • darlithoedd arbenigol rhyngweithiol byw yn defnyddio meddalwedd Adobe Connect©
  • fforymau trafodaeth grŵp a arweinir gan diwtoriaid arbenigol
  • anogir dysgu cydweithredol yn gryf
  • bydd cyfranogwyr yn gallu trafod achosion heriol neu ddiddorol y byddant yn dod ar eu traws yn eu hymarfer eu hunain (argymhellir iddynt ddefnyddio camera)
  • bydd tiwtoriaid hefyd yn rhannu achosion i'w trafod o'u clinigau
  • nod fforymau yw galluogi myfyrwyr i ddysgu o'i gilydd a chael adborth gan diwtoriaid

Mae pob pwnc yn cynnwys cyfres o gwestiynau amlddewis. Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cwestiynau cyn symud ymlaen i'r pwnc nesaf. Bydd y cyfranogwyr sy'n bodloni'r gofynion hyn yn gymwys ar gyfer yr arholiad terfynol.

Ar ddiwedd y cwrs, bydd arholiad ar-lein yn darparu sail ar gyfer yr asesiad crynodol. Bydd cyfranogwyr sy'n llwyddo i gwblhau'r arholiad terfynu yn derbyn tystysgrif cwblhau.

Noder mai amserlen dros dro yw hwn a gallai gael ei newid. Bydd dwy ddarlith fyw yn cael eu hychwanegu'n nes at y dyddiad dechrau.

WythnosPwnc 
0Paratoi cyn y cwrs 
1Pwnc 1 
2-3Pwnc 2Yn amodol ar gwblhau MCQ 1
4-5Pwnc 3Yn amodol ar gwblhau MCQ 2
6-7Pwnc 4Yn amodol ar gwblhau MCQ 3
8Pwnc 5Yn amodol ar gwblhau MCQ 4
9-10Pwnc 6Yn amodol ar gwblhau MCQ 5
11-12Pwnc 7Yn amodol ar gwblhau MCQ 6
13-14Pwnc 8Yn amodol ar gwblhau MCQ 7
15Wythnos arholiadYn amodol ar gwblhau MCQ 8
16Wythnos ailsefyll (os oes angen) 

Meini prawf cymhwysedd

Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r holl feini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn:

  • meddu ar radd feddygol
  • gweld cleifion sydd â chlwyfau croen yn rheolaidd
  • meddu ar allu rhagorol yn yr iaith Saesneg
  • berchen cyfrifiadur, neu gyda mynediad at un, gyda chyswllt gwe cyflymder uchel

Nid oes angen i chi fod wedi cwblhau cwrs dermatoleg neu ddermoscopi'n flaenorol, ond bydd angen rhywfaint o wybodaeth am ddermatoleg er mwyn cyfranogi'n effeithiol.

Offer

Argymhellir mynediad at ddermatosgop yn gryf er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn. Argymhellir mynediad at gamera hefyd i rannu eich delweddau dermatoscopig â'r gymuned ar-lein ond nid yw hyn yn hanfodol.

Manteision

Cwrs cwbl ar-lein yw hwn, sy'n cael ei gynnal dros 16 wythnos, gydag asesiadau ar-lein.

  • dysgu’n hyblyg, yn eich amser eich hun.
  • cewch gipolwg ar y technegau diweddaraf gan arbenigwyr rhyngwladol ym maes trichoscopy ac onychoscopy, sy'n ysgrifennu'r pynciau ar gyfer y cwrs hwn.
  • profiad o ddarlithoedd arbenigol rhyngweithiol byw.
  • gweithio a dysgu ar y cyd gyda'ch cyfoedion o bob cwr o'r byd mewn fforymau trafodaeth grŵp dan arweiniad tiwtoriaid arbenigol

Canslo, cyfnewid a throsglwyddo

Mae'r cwrs hwn yn gwrs 'eithriadol' o ran ein polisi canslo, cyfnewid a throsglwyddo. Gweler isod grynodeb o'r termau eithriadol sy'n gymwys i'r cwrs hwn. Gweler ein telerau a'n hamodau i gael y manylion llawn. Bydd Pennaeth yr Uned DPP yn ystyried amgylchiadau eithriadol.

Canslo

Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaith% ffioedd y cwrs sy’n daladwy
Dros 20 Ffi weinyddol o £50
20-1 Os na allwn gael rhywun i gadw eich lle: 70%, yn ogystal ag unrhyw gostau ar gyfer deunyddiau cyn y cwrs sydd eisoes wedi’u hanfon ar yr unigolyn neu’r Cleient, oni bai bod y deunyddiau yn cael eu dychwelyd atom o fewn 10 Diwrnod Gwaith mewn cyflwr newydd sbon.
0 100%

Trosglwyddo

Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaithFfi yn daladwy
Dros 15 N/A
Llai na 15 Byddwn yn trin hwn yn yr un modd â'ch bod wedi canslo a bydd y ffi canslo yn daladwy.

Cyfnewid

Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaithFfi yn daladwy
Dros 20 £50 yn ogystal ag unrhyw wahaniaeth rhwng y ddau gwrs
Llai na 20 Byddwn yn trin hwn yn yr un modd â'ch bod wedi canslo a bydd y ffi canslo yn daladwy.
Cwrs hyfforddi ar-lein 12 wythnos wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer meddygon sy'n dymuno dysgu am Dermoscopi i wella eu sgiliau diagnosis melanoma.