Cynnal rhaglen addysg weithredol bwrpasol ar gyfer un o Bartneriaid Strategol y Brifysgol
30 Gorffennaf 2024
Bu’r Uned DPP yn cydweithio â Dr Saloomeh Tabari, Cyfarwyddwr y Rhaglen MBA Ysgol Busnes Caerdydd, i ddatblygu a chynnal Ysgol Haf Weithredol unigryw ar gyfer myfyrwyr MBA Prifysgol Xiamen. Drwy weithio gyda’n gilydd, fe wnaethon ni greu amgylchedd dysgu sy’n ysbrydoli gweithwyr proffesiynol o gefndiroedd gwahanol i ddysgu, rhwydweithio ac astudio gyda’i gilydd, ac annog y rhai sy’n cymryd rhan i gysylltu theori â’u hymarfer yn eu rolau proffesiynol yn Tsieina.
Fe wnaethon ni ddylunio’r rhaglen, a barodd wythnos ac a oedd yn gwbl bwrpasol, i fod yn brofiad dwys ac ymdrwythol i fyfyrwyr MBA sy’n gweithio yn y diwydiant ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Roedd y rhaglen yn gyfuniad o ddarlithoedd, astudiaethau achos, siaradwyr gwadd a chyfleoedd i rwydweithio.
Cymerodd pum cynrychiolydd ran yn y rhaglen, a rheini o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys cyllid, peirianneg awyrofod a TG. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Ystafell Addysg Weithredol ein Canolfan Addysgu Ôl-raddedig gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd pedwar myfyriwr o raglen MBA Caerdydd yn astudio gyda nhw.
Dyma a ddywedodd Dr Saloomeh Tabari, arweinydd y rhaglen
Trwy ddefnyddio enghreifftiau amrywiol o bedwar ban byd mewn darlithoedd a chyflwyniadau, ac annog rhannu syniadau rhwng y cynadleddwyr gwadd a myfyrwyr MBA o Brifysgol Caerdydd, rydyn ni wedi creu rhaglen wirioneddol unigryw a fydd yn rhoi gwerth yn y byd go iawn pan fydd y rhai a oedd yn cymryd rhan yn dychwelyd adref.
Roedd ein rhaglen yn cynnwys meysydd pwnc sydd o ddiddordeb byd-eang megis dylunio gwasanaethau, ymarfer di-wastraff, deallusrwydd artiffisial a marchnata er dyfodol cynaliadwy. Roedd y rhaglen yn galluogi’r rhai oedd yn cymryd rhan i gymharu'r hyn yr oedden nhw wedi'i ddysgu yn erbyn eu profiadau eu hunain ac yng nghyd-destun eu gwledydd a'u rhanbarthau cartref.
Yn dilyn llwyddiant y rhaglen hon, rydyn ni bellach yn trafod y posibilrwydd o groesawu carfannau o fyfyrwyr MBA o bob cwr o’r byd, yn ogystal â pharhau i feithrin ein perthynas gyda Phrifysgol Xiamen.
Partneriaeth strategol
Mae ein partneriaeth strategol gyda Phrifysgol Xiamen yn cefnogi cyd-raglenni academaidd, cynllun ysgoloriaeth PhD a chyfnewid staff a myfyrwyr. Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yn y DU i efeillio â dinas yn Tsieina wrth ddod yn bartner â Xiamen bron 40 mlynedd yn ôl.
Mae’r bartneriaeth gyda Phrifysgol Xiamen, sy’n cael ei rheoli gan y tîm Partneriaethau Byd-eang, yn estyn ein perthynas hirsefydlog a'n prosiectau cydweithredol cyfredol mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin.
Cysylltwch â'n tîm cyfeillgar os hoffech chi ddysgu sut y gallwn ni weithio gyda'ch sefydliad i greu rhaglen DPP bwrpasol.