Uned DPP Adolygiad o’r Flwyddyn 2023
31 Mawrth 2024
Mae’n bleser gennym gyflwyno Adolygiad Blynyddol yr Uned DPP o 2023, sy’n manylu ar y gwahanol agweddau o’n gwaith a sut rydym yn datblygu ac yn meithrin cyfleoedd rhyngddisgyblaethol sy’n cefnogi amcanion strategol y Brifysgol.
Mae ein hymroddiad i arfogi unigolion a sefydliadau â sgiliau a gwybodaeth hanfodol i ffynnu wrth wraidd ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i ddatgloi datrysiadau arloesol i broblemau cymhleth. Dyna lle mae’r Uned DPP yn berthnasol - rydyn ni’n gweithio ar draws y Brifysgol, gan ddod ag academyddion a’r sectorau preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector at ei gilydd i ddatblygu hyfforddiant i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas.
Drwy gydol ein hadolygiad o’r flwyddyn, byddwch yn cael cipolwg ar yr amrywiaeth o weithgareddau DPP sy’n cael eu cynnig gan y Brifysgol, y methodolegau y byddwn yn eu defnyddio i sicrhau effeithiolrwydd, a’r strategaethau sy’n cael eu gweithredu gennym i arwain y blaen mewn tirwedd addysgol sy'n esblygu'n barhaus.
TMae’r adeilad sbarc|spark, sydd yng nghanol Campws Arloesedd y Brifysgol, wedi bod yn gartref i ni ers mis Mawrth 2022. Rydyn ni wedi manteisio’n aruthrol o fod yn y gymuned hon – sy’n ymwneud â chreu posibiliadau newydd drwy gysylltiadau, creadigrwydd a chwilfrydedd. Mae ein lle o fewn sbarc|spark yn ein galluogi i weithio ochr yn ochr ag unedau ymchwil, datblygu ein perthynas â chydweithwyr ac ehangu ein cydweithrediadau â busnesau. Un maes o’r fath rydyn ni’n ei archwilio gyda’r Sefydliad Arloesi Sero Net yw canfod modiwlau ôl-raddedig y gellir eu defnyddio i wella sgiliau gweithwyr y diwydiant mewn meysydd fel cynllunio, ynni, pensaernïaeth a chadwyni cyflenwi.
Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael eich ysbrydoli ar ôl darllen ein hadolygiad o’r flwyddyn, dewch i ymweld â ni am sgwrs yn sbarc|spark. Byddwn yn eich tywys o amgylch y lle, yn cael paned yn y caffi ac yn mwynhau tirnodau Caerdydd o falconi’r 6ed llawr.
Darllenwch yr adroddiad
Annual Review 2023 Welsh
Darllenwch ein Hadolygiad o'r Flwyddyn 2023.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cysylltu â ni
Os hoffech chi drafod sut y gall yr Uned DPP helpu eich busnes neu sefydliad i ddatblygu cyfleoedd datblygiad proffesiynol, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm cyfeillgar: