Ewch i’r prif gynnwys

Yr amgylchedd

Honeybee on purple flower

Mae gan wenyn rôl allweddol wrth gadw Cymru yn dir gwyrdd a dymunol. Yn anffodus, mae’r niferoedd yn gostwng ac i wyrdroi’r duedd hon, rydym yn gweithio gydag ysgolion lleol i greu cynefinoedd sy’n addas i wenyn ac i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr a gwyddonwyr.

I sbarduno’r ymdrech hon, rydym wedi datblygu pecyn ymgysylltu a fydd yn helpu grwpiau cymunedol megis Sefydliad y Merched (WI) i weithio gydag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol eraill i greu mannau addas i bryfed sy’n peillio.

Yn ogystal â chyfarpar hyrwyddo, bydd y pecyn hefyd yn cynnwys cyngor ymarferol ar sut i sefydlu a chynnal cwch gwenyn neu westy pryfed. Bydd deunydd addysgu ynddo hefyd sy’n benodol i wenyn ac sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm cenedlaethol.

Ar ddiwedd y prosiect, bydd adborth gan sefydliadau unigol ac ysgolion yn cael eu cynnwys mewn pecyn ymgysylltu diwygiedig a fydd ar gael i Wls ledled Cymru gyfan.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych ddiddordeb yn yr ymchwil hon, cysylltwch â ni.

Pharmabees