Ewch i’r prif gynnwys

Ail-wylltio Ysbyty Ystrad Fawr

Mae ysbytai yn gallu bod yn fannau sy’n gallu achosi pryder a straen, nid yn unig i gleifion, ond i'r staff hefyd. Bwriad y prosiect newydd yma i ‘ail-wylltio’ Ysbyty Ystrad Fawr yw lleihau lefelau straen a gwella lefelau lles trwy ail-wylltio safle’r ysbyty.

Iechyd a gofodau awyr agored

Profwyd eisoes fod gerddi a safleodd/gofodau awyr agored yn fuddiol o ran datblygu agweddau o les corfforol a gwytnwch meddyliol.

Mae ymchwil wedi dangos fod defnyddio ‘ardaloedd gwyrdd’ yn gallu lleihau problemau iechyd hir-dymor, er enghraifft clefyd y galon, cancr, ac anhwylderau cyhyrsgerbydol. Mae hefyd yn gallu cyfrannu at leihau y gwaethaf o symptomau straen.

Mae bod o amygylch natur yn tawelu’r meddwl ac yn cynning dihangfa o fywyd pob dydd.

Ail-wylltio Ysbyty Ystrad Fawr

O ystyried hyn mae tîm Pharmabees mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi lansio menter Ail-wylltio Ysbyty Ystrad Fawr – menter i adfer safle ysbyty Ystrad Fawr i’w cyflwr naturiol.

Ysbyty â 269 o welyau o fewn 9 ward yw Ystrad Fawr, sy’n trin amrywiaeth o gyflyrau iechyd. Mae hefyd yn gartref i Hosbis Dewi Sant.

Mae’r tirwedd newydd yma wedi ei chynllunio i fod yn le o gynhaliaeth isel ac yn rhwybeth gall bobl fwynhau, yn hytrach na chefnogi a hybu byd natur.

Fe fydd blodau gwyllt ‘Ladies smock’ yn tyfu yn Ysbyty Ystrad Fawr

Mathau o flodau gwyllt

Hyd yn hyn, mae ‘ail-wylltio’ tirwedd Ystrad Fawr wedi galluogi amrywiaeth o flodau gwyllt sy’n frodorol ac yn beillwyr-gyfeillgar i dyfu. Gwelwch isod eu henwau yn y Saesneg:

  • common knapweed
  • meadow buttercups
  • oxeye daisy
  • white campion
  • dandelion
  • cuckoo flower
  • white gem
  • corncockle
  • white clover
  • bluebells
  • forget me nots
  • cowslip
  • red clover
  • wild sweet pea

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am y blodau gwyllt yma o’r ‘Woodland Trust’ a’r ‘Wildlife Trust’. Os ydych am dyfu blodau gwyllt eich hun gwlewch ein canllaw i adnabod planhigion (PDF Saesneg).

Buddion

Mae’r blodau gwyllt yn amlinellu ymylon safle’r ysbyty, ac fe osodir meinciau yn i alluogi staff ac ymwelwyr i fwynhau’r ardal.

Bioamrywiaeth

Mae’r cynllun yn bwriadu hybu’r bioamrywiaeth a lleihau allyriadau carbon. Wrth gynning hafan ddiogel a ffynhonnell bwyd i beilliwyr lleol, fe fydd y mannau gwyllt yn cynnig cyfleoedd i bryfed ddod i ardal mwy heulog, a bwydo o neithdar y blodau.

Mae poblogaeth peillwyr yn lleihau, felly mae creu lleoedd fel hyn yn hanfodol i amddifyn aelodau holbwysig yr ecosystem.

Newid hinsawdd

Mae’r llystyfiant sy’n amsugno carbon deiocsid o’r atmosffer trwy ffotosynthesis, mae nwyon ty gwydr yn lleihau trwy ‘carbon offsetting’ sy’n ddull gost-effeithiol.

Ac felly, bydd y prosiect yma’n chwarae rôl yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Yn ôl ymchwil ‘Grassland Trust’ mae pob hectar o laswelltir (10,000m sgwar) yn gallu amsugno a storio hyd at 3 tunnell o garbon deiocsid pob blwyddyn.

.

Lles

Fe fydd ‘ail-wylltio’ tir Ysbyty Ystrad Fawr nid unig yn ffudiol i’r amgylchedd, ond hefyd yn bleserus i’r cleifion a’r ymwelwyr fwynhau gwyrddni’r safle awyr agored.

Agwedd unigryw i’r prosiect yma bydd datblygu dull o edrych ar effaith treulio amser yn y safleodd natur ar les personol staff y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.

Rydym yn obeithiol fydd y dull yma yn cael ei ddefnyddio i asesu effaith prosiectau tebyg ar draws Cymru.

Dewch i gymryd rhan

Prosiectau Pharmabees a gweithgareddau ‘ail-wylltio’ yn y cartref

Cysylltwch â ni

Rewilding Ysbyty Ystrad Fawr

Dilynwch ni ar