Ewch i’r prif gynnwys

Lles

Close up of bee on purple flower

Byddwn yn tyfu ein planhigion gwrthfacterol sy’n addas i wenyn yn agos at wenyn mêl a phennu os yw mêl yn cynnwys eu cyfansoddion gwrthfacterol.

Bydd y gwaith yn gydweithrediad rhwng Yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Byddwn hefyd yn ystyried a oes modd sefydlu gardd wenyn, yn seiliedig ar y planhigion hyn, i weithredu fel man iacháu/lles i gleifion, perthnasau, staff a myfyrwyr y Brifysgol a’r gofal iechyd.

Wrth leoli gardd wenyn ar diroedd yr ysbyty, disgwyliwn y byddwn yn:

  1. cynnig modd o gynyddu ymgysylltu rhwng cleifion a’r gymuned
  2. cael effeithiau cadarnhaol ar les (claf, perthynas a staff) a fydd yn cael eu mesur trwy ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol (holiaduron (gan gynnwys cwestiynau wedi’u dilysu o ran ansawdd wrth ystyried lles), cyfweliadau a grwpiau ffocws).

Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am sut y teimlodd rhanddeiliaid fod eu rôl wrth sefydlu’r ardd wenyn, a’u cyfraniad at iechyd y gwenyn a bioamrywiaeth, wedi effeithio ar eu hymdeimlad canfyddedig o les, ac a oedd pobl yn meithrin sgiliau o ganlyniad i unrhyw elfennau o’r prosiect.

Mae’r prosiect yn cynrychioli cyfuniad cyffrous newydd rhwng gwyddoniaeth labordy, ecoleg a bioamrywiaeth a iechyd a’r gwyddorau cymdeithasol.  Er bod tystiolaeth hyd yma sy’n awgrymu fod effeithiau buddiol i fannau gwyrdd, nid oes unrhyw astudiaethau trylwyr wedi archwilio’r manteision posibl o sefydlu a defnyddio gardd wenyn mewn cyfleuster gofal iechyd yn y DU.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych ddiddordeb yn yr ymchwil hon, cysylltwch â ni.

Pharmabees