Ewch i’r prif gynnwys

Iechyd gwenyn

Flowers

Mae Seilwaith Gwyrdd Trefol (UGI) o gynyddol bwys wrth ystyried sut i liniaru effeithiau negyddol trefoli torfol a newid hinsawdd ledled y byd.

Gall To Gwyrdd gynnig llu o fanteision megis lleihau llygredd yn yr aer ac effeithiau ynysoedd trefol, cadw dŵr yn well a gwella iechyd a lles. Maent hefyd yn cyfrannu at wella bioamrywiaeth a darparu bwyd i bryfed sy’n peillio megis gwenyn mêl, sy’n chwarae rhan allweddol wrth gynnal ein hecosystem.

Yn ein hastudiaethau rhagarweiniol mewn cydweithrediad â’r  Ysgol Pensaernïaeth a Phrifysgol Aberystwyth, rydym wedi profi bod Trifolium Repens (Meillionen Wen) cystal â Briweg, arweinydd presennol y farchnad, o ran oeri anweddol a’r llif gwres.

Mae blodau meillion yn para’n hirach na Briweg ac felly gallen nhw ddarparu mwy o fwyd dros gyfnod hirach i bryfed sy’n peillio. Maent hefyd yn cynnwys cyfansoddion gwrthfacterol sy’n gallu diogelu’r pryfed rhag pathogenau bacteria megis Foulbrood Americanaidd (AFB), sy’n un o brif achosion colled cytrefi gwenyn mêl yng Nghymru.

Yn rhan o’r astudiaeth hon, rydym wedi adnabod amrywiaeth o feillion a elwir yn “Iâ Gwyrdd” oedd yn dangos gweithgaredd wrthfacterol uwch o lawer yn erbyn Paenibacillus larvae, gweithredwr achosol Afb, nag unrhyw un o’r 11 amrywiaeth arall a archwiliwyd yn rhan o’r astudiaeth hon.  Mae’r canlyniadau yn cefnogi’r ddamcaniaeth y gallai meillion gael eu datblygu fel to gwyrdd amgen sy’n well na Briweg.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych ddiddordeb yn yr ymchwil hon, cysylltwch â ni.

Pharmabees