Ewch i’r prif gynnwys

Creu llain i beillwyr ym Mhafiliwn Grange

Buom ni'n cydweithio gyda rhaglen y Porth Cymunedol a thrigolion Grangetown i ddatblygu man cymunedol gyda phwyslais ar les ac amgylcheddaeth.

Prosiect ymgysylltu pwysig gan Brifysgol Caerdydd yw'r Porth Cymunedol a lansiwyd yn 2014 i helpu i wneud Grangetown yn lle hyd yn oed yn well i fyw a gweithio ynddo, drwy feithrin partneriaethau rhwng y Brifysgol a’r gymuned.

Gan ddefnyddio egwyddorion cyd-gynhyrchu, mae’r Porth Cymunedol wedi hwyluso dros 60 o brosiectau rhwng y gymuned a’r brifysgol, gan greu cysylltiadau rhwng staff a myfyrwyr y brifysgol a thrigolion Grangetown er mwyn helpu i wireddu syniadau dan arweiniad y gymuned.

Lle i wenyn ym Mhafiliwn Grange

Mae prosiect y Porth Cymunedol wedi chwarae rhan ganolog yn ailddatblygu Pafiliwn Grange, pafiliwn bowls gwag a drowyd yn gyrchfan cymunedol.

Bydd llain i beillwyr ar dir y Pafiliwn er mwyn denu gwenyn, lle bydd trigolion a gwirfoddolwyr yn meithrin planhigion sy'n ddeniadol i beillwyr a rhai a nodwyd fel rhai sy'n cyfrannu nodweddion gwrthficrobaidd i fêl.

Mae tîm Pharmabees wedi chwarae rhan fawr yn dechrau'r prosiect cyffrous newydd hwn sy'n seiliedig ar les, bioamrywiaeth ac amgylcheddaeth.

Yn ogystal â'r llain i beillwyr, bydd y man cymunedol bywiog hwn yn cynnig gofod fforddiadwy i’w logi, caffi sy’n canolbwyntio ar y gymuned gyda chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl ifanc leol, cyfleoedd i arddio a thyfu yn yr awyr agored a chyfleustodau cyhoeddus yr oedd eu dirfawr angen mewn parc dinesig poblogaidd.

Cyfoethogi'r gymuned a’r amgylchedd

Yn ogystal â'r llain i beillwyr a ddatblygir gyda thîm Pharmabees, mae'r cynigion i gyd-gynhyrchu tirwedd Pafiliwn Grange yn cynnwys:

  • briciau gwenyn yn ffabrig yr adeilad, gerddi glaw a phyllau draenio arwyneb
  • ystafell ddosbarth yn yr awyr agored a photiau planhigion at ddefnydd ysgolion a'r gymuned
  • perllan
  • gwell bioamrywiaeth ar gyfer gwella ansawdd aer, pridd, dŵr a sŵn mewn tirwedd sydd wedi dioddef llygru diwydiannol
  • llain ar gyfer gweithgareddau cymunedol.

Bydd gweithgareddau ar y safle'n cynnwys gweithdai rheolaidd ar gyfer tyfu a chynnal a chadw gardd er mwyn cynnig hyfforddiant i drigolion lleol ar dyfu tymhorol a gofalu am y tir a'i nodweddion.

Cysylltu â ni

Pharmabees

Y Porth Cymunedol