Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn cryfhau cydweithredu rhyngwladol ar ymchwil seiberddiogelwch a chyfnewid gwybodaeth

22 Chwefror 2024

Llywodraethwr Talaith Yucatan (canol y lluniau) gyda'i ddirprwyaeth a chynrychiolwyr Prifysgol Caerdydd.

Roedd y brifysgol yn falch iawn o groesawu Llywodraethwr Talaith Yucatan, Mauricio Vila Dosal, a’i ddirprwyaeth i Gaerdydd yn ddiweddar i hyrwyddo cydweithio rhyngwladol a rhannu gwybodaeth rhwng Cymru a Mecsico.

Roedd yr ymweliad, a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, yn arddangos ymchwil arloesol y brifysgol i seiberddiogelwch ac ecosystemau sero net, yn ogystal â rhoi cyfle i Gymru ac Yucatan gydweithio mewn ymchwil ac addysg ynglŷn â thrawsnewid digidol a datgarboneiddio; roedd hyn wedi'i danlinellu gan amcanion a rennir a chyfleoedd ar gyfer twf cilyddol.

Cafodd y ddirprwyaeth daith dywys o amgylch cyfleusterau'r brifysgol yn Abacws a Sbarc, gan gynnwys ymweliad â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, y Ganolfan Ragoriaeth mewn Ymchwil ac Addysg Seiberddiogelwch, a'r Hyb Arloesedd Seiber. Arweiniwyd hyn gan yr Athro Stuart Allen, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg, ynghyd â Dr George Theodorakopoulos, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch, a Dr Yulia Cherdantseva, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol.

Yn dilyn y daith, rhoddodd yr Athro Agustin Valera-Medina, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesedd Sero Net, gyflwyniad cymhellol ar ymchwil datgarboneiddio, gan dynnu sylw at gymwysiadau posibl cymysgeddau amonia ar gyfer nwy di-garbon yn Yucatan.

Darparodd trafodaeth ford gron gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y diwydiant, gan gynnwys PwC, Airbus, Thales Group, Tramshed Tech, ac Alacrity Foundation, lwyfan ar gyfer deialog gadarn ar faterion perthnasol, gan gynnwys pwysigrwydd hyrwyddo STEM a gyrfaoedd seiber i genedlaethau’r dyfodol.

Wrth siarad yn y drafodaeth ford gron, pwysleisiodd y Llywodraethwr bwysigrwydd cydweithredu rhyngwladol mewn arloesi seiberddiogelwch a dangosodd effaith prosiectau seiberddiogelwch a gynhaliwyd yn yr Yucatan sydd wedi creu gwell cyfleoedd addysgol i fyfyrwyr, a llwybrau i opsiynau cyflogaeth gwell.

Dywedodd Mauricio Vila Dosal, Llywodraethwr Talaith Yucatan: “Mae yna dalent wych yn Yucatan sydd bellach yn cofleidio’r cyfleoedd a gyflwynir gan y Llywodraeth hon i bobl ifanc ac entrepreneuriaid. Rydym wedi ymrwymo i wella ein galluoedd trwy gydweithio â'r goreuon."

Mae'r ymweliad hwn yn hollbwysig; mae Cymru wedi arddangos datblygiad hynod ystwyth ac amlochrog, gan sefydlu meincnod ym meysydd technoleg a seiberddiogelwch. Mae’n anrhydedd i ni gryfhau’r bartneriaeth hon i hybu ein twf rhyngwladol ymhellach
Mauricio Vila Dosal Llywodraethwr Talaith Yucatan

Uchafbwynt y diwrnod oedd llofnodi Llythyr o Fwriad, yn symbol o'r ymrwymiad i gydweithio yn y dyfodol rhwng Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y brifysgol a'r Universidad Politecnica de Yucatan. Y cytundeb hwn yw’r cyntaf o’i fath rhwng Prifysgol Caerdydd a sefydliadau cyfatebol ym Mecsico, a’r gobaith yw y bydd hyn yn gyrru ymchwil y brifysgol i lwyfan byd-eang, yn ogystal â helpu i gryfhau addysg uwch yn Yucatan, a chynyddu cyfleoedd addysgol i’w myfyrwyr.

Dywedodd Ana Cristina Erales Aguilar, Cyfarwyddwr Cyswllt yn Universidad Politecnica de Yucatan: “Wrth i ni ddod at ein gilydd, rydym yn rhagweld dyfodol o arloesi cydweithredol ac arbenigedd ar y cyd mewn seiberddiogelwch. Mae digwyddiadau heddiw yn gosod y sylfaen ar gyfer partneriaeth gadarn; rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o’r fenter drawsddiwylliannol hon, gan ysgogi datblygiadau mewn ymchwil ac addysg rhwng Prifysgol Caerdydd a’r Universidad Politecnica de Yucatan.”

Gan adleisio’r teimladau hynny, dywedodd Dr Yulia Cherdantseva, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol: “Mae llwyddiant yr ymweliad hwn yn dangos enw da cynyddol Prifysgol Caerdydd yn rhyngwladol mewn ymchwil ac addysg seiberddiogelwch, ac yn ehangach ym maes trawsnewid digidol."

Gobeithiwn y bydd yr ymweliad hwn yn gam tuag at gydweithio agosach a buddiol i’r ddwy ochr rhwng Prifysgol Caerdydd a’r 13 prifysgol gyhoeddus yn Yucatan, ac yn y tymor hwy rhwng y ddau ranbarth ym maes seiberddiogelwch a meysydd galluogi eraill o drawsnewid digidol
Dr Yulia Cherdantseva Research Fellow/Associate

Dangosodd yr ymweliad ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i feithrin partneriaethau byd-eang a sbarduno ymchwil effeithiol mewn meysydd hollbwysig, gan osod y sylfaen ar gyfer cydweithio parhaus rhwng Yucatan a Chymru.